Newyddion S4C

Dedfrydu dau ar ôl gadael i gi oedd â thiwmor ‘ddioddef yn ddiangen’

18/02/2025
Athena y ci
Athena y ci

Mae dyn a dynes wedi cael dirwy ac wedi eu gwahardd rhag cadw cŵn ar ôl achosi “dioddefaint diangen” i gi ar ôl methu â mynd ag ef at y fet.

Roedd gan y ci, Athena, wyneb wedi chwyddo oherwydd tiwmor ac roedd yr RSPCA wedi gofyn i’r perchnogion fynd ag ef at y fet nifer o weithiau.

Pleidiodd Julie Knight a Sydney (Jamie) Rees, y ddau yn 51 oed, o Gaer Gwerlas, Tonyrefail, Rhondda Cynon Taf yn euog i un cyhuddiad dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid.

Wrth ymddangos o flaen Llys Ynadon Merthyr Tydfil ddydd Mercher fe gafodd y ddau orchymyn cymunedol o 12 mis.

Fe gafodd y ddau hefyd ddirwy o £80, tâl ychwanegol o £114 a chostau o £532.50.

Maen nhw wedi eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am ddwy flynedd gydag oedi o 14 diwrnod.

Clywodd y llys fod Swyddog Achub Anifeiliaid (ARO) yr RSPCA, Andrew Harris, wedi mynd i Gaer Gwerlas ddydd Mawrth 16 Ionawr 2024 er mwyn gweld Athena a chwrdd â’i pherchnogion.

Dywedodd: “Roeddwn i’n gallu gweld bod ganddi chwydd bach ar ochr dde ei hwyneb tua maint pêl golff. 

“Gofynnais i Mr Rees beth oedd e a dywedodd wrtha i ei bod hi wedi cael ei ddannedd allan tua blwyddyn yn ôl yr ochr yna i’w phen a bod y chwydd wedi codi’r wythnos hon.”

Cynghorodd bryd hynny bod angen mynd â’r ci i weld milfeddyg o fewn wythnos.

'Torcalonnus'

Ar 24 Ebrill fe aeth y Swyddog Achub Anifeiliaid (ARO) Lauren Perry i’r tŷ a chafodd weld Athena, a dywedwyd wrthi nad oedd wedi gweld milfeddyg.

“Roeddwn i’n gallu gweld ar unwaith fod ganddi wyneb chwyddedig, a bod ei llygad dde wedi cau’n rhannol,” meddai.

“Roedd hi mewn cyflwr corfforol da ac yn effro ond roedd ei hwyneb wedi chwyddo’n fawr.”

Fe aeth hi â’r ci at y fet a chael gwybod ei fod yn ddioddef a bod rhai ei roi i lawr.

Clywodd y llys bod y ddau ddiffynnydd wedi bod yn berchen cŵn drwy gydol eu hoes a dyma'r tro cyntaf i unrhyw beth fynd o'i le. 

Dywedodd y ddau eu bod wedi ceisio triniaeth ar gyfer Athena i ddechrau a oedd wedi costio tua £1,000 yn ystod haf 2023. 

Clywyd hefyd bod Ms Knight wedi ei thristáu gan yr hyn oedd wedi digwydd ac yn meddwl am Athena bob dydd.

Dywedodd y Dirprwy Brif Arolygydd Gemma Black: “Mae hwn yn achos hynod dorcalonnus. 

“Yn anffodus, ni wnaeth perchnogion Athena drefniadau iddi ymweld â milfeddyg ac o ganlyniad fe fu’n dioddef yn ddiangen.

“Byddem yn annog unrhyw berchnogion anifeiliaid anwes i gysylltu ag elusennau neu sefydliadau lles anifeiliaid os oes angen, ac i beidio ag oedi cyn cael cymorth gan filfeddyg.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.