Edrych eto ar euogfarn Michael Stone am lofruddio Lin a Megan Russell

Michael Stone

Mae corff annibynnol wedi dweud ei fod yn y broses o adolygu euogfarnau Michael Stone am lofruddio Lin Russell a’i merch Megan yn 1996.

Dywedodd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol wrth y BBC eu bod yn adolygu cais gan gyfreithwyr Stone ar hyn o bryd.

Cafodd Michael Stone ei ddedfrydu i oes yn y carchar am lofruddiaeth Dr Russell, 45 oed, a’i merch Megan, chwech oed, bron i 30 mlynedd yn ôl.

Roedd y ddwy wedi’u curo i farwolaeth yn sir Kent ym mis Gorffennaf 1996, wedi i’r teulu symud i’r ardal o Wynedd ychydig fisoedd yn gynharach.

Dywedodd bargyfreithiwr Stone, Mark McDonald, ei fod wedi comisiynu ymchwiliad fforensig er mwyn ail-edrych ar y dystiolaeth a arweiniodd at euogfarn Stone.

Mae’n dweud fod datblygiadau yn y dechnoleg yn golygu bod profion yn “llawer mwy soffistigedig” o'u cymharu â'r hyn oedd ar gael ar adeg yr ymchwiliad gwreiddiol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol eu bod yn “archwilio pob un o’r posibiliadau” bod Michael Stone wedi dioddef anghyfiawnder.

Dywedodd y llefarydd bod rhaid fod yna “bosibilrwydd gwirioneddol y byddai’r Llys Apêl yn gwrthdroi’r euogfarn” pan na fyddai hynny wedi digwydd ar sail unrhyw un o’i geisiadau blaenorol, er mwyn gallu cyfeirio’r achos ato.

Ychwanegodd y byddai’n “amhriodol” trafod yr achos mewn unrhyw fanylder pellach tra bod y cais yn parhau i gael ei adolygu.

Y cefndir

Roedd Lin Russell wedi bod yn mynd am dro gyda’i dwy ferch pan ddigwyddodd yr ymosodiad. Roedd ei merch Josie, oedd yn naw oed ar y pryd, hefyd wedi dioddef anafiadau difrifol i’w phen.

Mae Josie Russell bellach yn artist ac yn byw yng Ngwynedd.

Mae Michael Stone yn dweud ei fod yn ddieuog ar bob cyfrif.

Cafodd apêl ganddo a’i gyfreithwyr ei gwrthod yn 2019.

Fis Gorffennaf y llynedd, dywedodd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol nad oedd “unrhyw bosibilrwydd gwirioneddol” y byddai’r Llys Apêl yn ailystyried ei euogfarnau.

Ond ym mis Hydref fe gadarnhaodd y comisiwn eu bod yn adolygu ei euogfarnau eto.

Ac mae’r corff wedi cadarnhau eu bod yn cynnal adolygiad pellach yn ystod 2026.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.