Newyddion S4C

Amy Dowden o Strictly i gael ei hanrhydeddu ym Mhalas Buckingham

18/02/2025
Amy Dowden

Mae’r ddawnswraig broffesiynol, Amy Dowden ymysg y rhai fydd yn cael eu hanrhydeddu gan y Brenin ym Mhalas Buckingham.

Bydd y ddawnswraig Gymraeg, sydd wedi ymddangos ar Strictly Come Dancing, yn cael ei gwneud yn Aelod o Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (MBE) wedi iddi godi arian a chodi ymwybyddiaeth o glefyd llidiol y coluddyn (Crohn’s Disease).

Cyhoeddodd Amy Dowden yn 2019 ei bod yn dioddef o glefyd llidiol y coluddyn cyn serennu yn y rhaglen Strictly Amy: Crohn’s and Me, lle siaradodd am ei phrofiadau â’r clefyd.

Dair blynedd yn ddiweddarach, aeth i’r ysbyty wedi iddi gael ei tharo’n wael tra’r oedd hi ar Strictly Live Tour.

Wedyn, yn 2023, cafodd ddiagnosis o ganser y fron yn fuan ar ôl dychwelyd o’i mis mêl, a datgelodd yn rhaglen ddogfen y BBC yn 2024 Strictly Amy: Cancer And Me ei bod wedi rhewi rhai embryonau.

Bydd y cyfansoddwr John Rutter  hefyd yn cael ei urddo. Bydd Syr John yn cael ei urddo’n farchog am ei wasanaeth i gerddoriaeth mewn seremoni ddydd Mawrth.

Mae'n adnabyddus am ei gyfansoddiadau corawl, gan gynnwys carolau Nadolig, anthemau a gweithiau estynedig fel y Gloria, y Requiem a’r Magnificat.

Mae ei gyfansoddiadau wedi eu comisiynu ar gyfer digwyddiadau brenhinol mawr yn y gorffennol, gan gynnwys jiwbilî aur y Frenhines Elizabeth II ac ar gyfer priodas Tywysog a Thywysoges Cymru yn 2011.

Ymhlith y rhai eraill sydd i fod i gael eu hanrhydeddu ddydd Mawrth, mae Jasvinder Sanghera, am ei gwasanaeth efo dioddefwyr priodas dan orfod a cham-drin.

Dim ond 14 oed oedd y Fonesig Jasvinder, o Derby, pan oedd hi’n wynebu’r posibilrwydd o briodas dan orfodaeth, ond heriodd ddymuniadau ei rhieni trwy wrthod a gadael y cartref.

Sefydlodd yr elusen Karma Nirvana yn 1993, a ddisgrifiwyd fel yr elusen arbenigol gyntaf ar gyfer dioddefwyr a goroeswyr camdriniaeth yn y DU.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.