Newyddion S4C

'Hawl' gan ysgol i beidio â chyflogi athro oedd wedi mynegi ei safbwyntiau crefyddol

18/02/2025
Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf

Roedd gan ysgol Anglicanaidd yng Nghymru yr “hawl” i beidio â chyflogi athro wedi iddo fynegi ei safbwyntiau crefyddol, yn ôl y Tribiwnlys.

Ym mis Hydref 2022, dechreuodd Ben Dybowski weithio drwy asiantaeth fel cynorthwyydd addysgu yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys yng Nghymru Esgob Llandaf, sef ysgol gyfun gydaddysgol i bobl ifanc 11 i 18 oed ger Caerdydd.

Ond penderfynodd ddod a chyflogaeth yr athro, sy’n Gristion â chredoau Catholig, i ben ar ôl iddo rannu ei farn am briodas o’r un rhyw, erthyliad a chyfraith Sharia yn ystod sesiwn hyfforddi.

Cynhaliodd yr ysgol sesiwn hyfforddiant gan Diverse Cymru ym mis Mawrth 2023, a gofynnodd Dybowski gwestiynau i’r hyfforddwr am fynegi credoau personol ac a oeddent yn gyfystyr â gwahaniaethu.

Dywedodd ei fod yn credu mai undeb rhwng dyn a dynes oedd priodas, bod bywyd dynol yn dechrau adeg cenhedlu a bod erthyliad yn cymryd bywyd dynol diniwed a’i fod yn feirniadol o rai agweddau o gyfraith Sharia.

Dywedodd hyfforddwr y sesiwn hyfforddi bod gan Dybowski y rhyddid i arddel safbwyntiau o’r fath, ond y gallai eu mynegi gael ei “ystyried fel gwahaniaethu”.

Cafodd Dybowski gyfarfod gyda'r pennaeth, Marc Belli, drannoeth ar ôl i aelodau eraill o staff fynegi pryder am y safbwyntiau, clywodd y tribiwnlys.

Dywedodd bryd hynny ei fod yn mynegi’r safbwyntiau hyn ar gyfryngau cymdeithasol yn aml hefyd.

'Rhesymol'

Clywodd y tribiwnlys yng Nghaerdydd bod canllawiau cyfryngau cymdeithasol a rheoliadau Cyngor y Gweithlu Addysg (CGA) wedi eu torri gan Dybowski.

Gallai hynny fod wedi niweidio myfyrwyr neu staff, yn enwedig o ystyried cymuned a gwerthoedd amrywiol yr ysgol, clywodd y tribiwnlys.

Roedd y dystiolaeth yn awgrymu iddo fanteisio’n dawel ar gyfleoedd i drafod ei farn gyda disgyblion a staff ar sawl achlysur.

Gofynnodd yr ysgol i Dybowski adael ei swydd.

Dywedodd y Barnwr Samantha Moore ei fod yn “rhesymol” i Marc Belli fod yn bryderus a dod i’r casgliad na allai ymddiried yn Dybowski i ymatal rhag cael trafodaethau amhriodol gyda’r disgyblion.

Ychwanegodd: “Mae gan yr hawlydd hawl i arddel ei gredoau a’u hamlygu ond mae o dan yr un gwaharddiadau â gweddill cymdeithas i beidio â gwahaniaethu nac aflonyddu ar eraill.”

Dywedodd bod barn Dybowski ar briodas, erthyliad a rhyw yn gyfystyr â chredoau gwarchodedig ond bod ei farn ar Gyfraith Sharia, sef system o gyfraith grefyddol Islamaidd, yn cael eu hystyried yn farn nad oedd yn cael ei amddiffyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.