Newyddion S4C

UDA a Rwsia i benodi timau i geisio dod â rhyfel Wcráin i ben

Rwsia ac UDA yn cwrdd

Bydd yr Unol Daleithiau a Rwsia y penodi timau ar lefel uwch, a fydd yn ceisio dod â’r rhyfel yn Wcráin i ben. 

Dyna sydd wedi ei gyhoeddi ar ôl dros bedair awr o drafodaethau rhwng uwch swyddogion o'r ddwy wlad yn Saudi Arabia, fore Mawrth.

Dyma'r trafodaethau wyneb yn wyneb cyntaf rhwng y ddwy wlad ers i Moscow geisio goresgyn Wcráin yn 2022.

Ond wrth ymateb i hynny, mae Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky wedi dweud mewn cynhadledd newyddion ei bod hi'n bwysig "peidio gwneud unrhyw gamgymeriadau" os am sichrau heddwch parhaol.

A phwysleisiodd unwaith yn rhagor fod angen cynrychiolwyr o America, Ewrop ac Wcráin wrth y bwrdd trafod.    

Fe fu Gweinidog Tramor Rwsia, Sergei Lavrov, yn cyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Marco Rubio, yn Riyadh, fore Mawrth. 

Ac yn ôl rhai o'r swyddogion Rwsiaidd a oedd yno, mae deialog "gadarnhaol ac adeiladol" wedi dechrau. 

Dywedodd yr Unol Daleithiau mai’r trafodaethau yw’r cam cyntaf i weld a yw Rwsia “o ddifrif” ynglŷn â dod â’r rhyfel i ben.

Chafodd Wcráin nac unrhyw un o wledydd Ewrop ddim eu gwahodd i’r trafodaethau.

Dywedodd Arlywydd Wcráin Volodymyr Zelensky na fydd yn cydnabod unrhyw gytundebau sy’n deillio o drafodaethau nad yw’n rhan ohonyn nhw.

Mae arweinwyr gwledydd Ewropeaidd hefyd wedi dweud eu bod nhw eisiau cymryd rhan mewn unrhyw drafodaethau. 

Mae'r Kremlin wedi dweud fod Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin yn barod i siarad ag Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zalensky, os yw hynny'n "angenrheidiol."  

Wedi'r trafodaethau fore Mawrth, dywedodd yr Americanwyr fod Rwsia a'r Unol Daleithiau hefyd wedi cytuno i fynd i'r afael â'r "rhai sy'n achosi poen" yn y berthynas rhwng y ddwy wlad. Ond dyw hi ddim yn glir beth yn union oedd o dan sylw.  

Yn ôl Gweinidog Tramor Rwsia, Sergei Lavrov, roedd y sgwrs yn un "ddefnyddiol"

"Fe wnaethon ni wrando ar ein gilydd, ac fe wnaethon ni glywed ein gilydd," meddai mewn cynhadledd newyddion wedi'r trafodaethau.       

Llun gan Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.