Cyfle arall i Louis Rees-Zammit yn yr NFL
Mae cyn-asgellwr rygbi Cymru Louis Rees-Zammit wedi arwyddo cytundeb gyda thîm pêl-droed Americanaidd y Jacksonville Jaguars.
Mae’n golygu ei fod yn un o 90 o chwaraewyr cyn dechrau’r tymor a fydd yn brwydro am 53 o lefydd yng ngharfan y tîm ar gyfer dechrau tymor yr NFL ym mis Medi.
“Rwy’n teimlo’n gyffrous o gael ymestyn fy nghyfnod yn Jacksonville trwy arwyddo am flwyddyn arall,” meddai Louis Rees-Zammit.
“Er fy mod yn gwybod ei bod wedi bod yn dymor anodd i’r tîm ar y cae, rwy’n meddwl i mi wneud cynnydd gwych fy hun.
“Rwy’n edrych ymlaen at barhau â’r gwaith caled a datblygu fy sgiliau hyd yn oed yn fwy, ac yn credu mai Jacksonville yw’r lle i mi wneud hynny.
“Mae’r dyfodol yn edrych yn ddisglair gyda’r Jaguars gyda phenodiad yr Hyfforddwr Coen a gweddill y staff, ac a dweud y gwir, alla’ i ddim aros i ail-ddechrau ar y gwaith.”
Penderfynodd Louis Rees-Zammit adael rygbi Cymru a chlwb Caerloyw ar drothwy'r Chwe Gwlad yn 2024.
Chwaraeodd ei gêm olaf i Gymru yn erbyn yr Ariannin yng Nghwpan y Byd 2024.
Arwyddodd gyda’r Kansas City Chiefs i ddechrau cyn cael gwybod na fyddai yn rhan o’u carfan nhw ar gyfer y tymor, a symud i Jacksonville fis Awst.