Newyddion S4C

Teuluoedd yn cofio dau ddyn a fu farw tra'n gweithio ar y rheilffordd

ITV Cymru 17/02/2025
Gareth Delbridge a Michael Lewis
Y ddau fu farw

Mae teuluoedd dau ddyn a fu farw tra'n gweithio ar y cledrau wedi dweud y 'gallai eu marwolaethau fod wedi gallu cael eu hatal'. 

Roedd Gareth Delbridge, 64, o Fynydd Cynffig a Michael Lewis, 58, o Gorneli yn rhan o dîm cynnal a chadw ar y rheilffordd rhwng Port Talbot a Pen-y-bont ar Ogwr ar 3 Gorffennaf 2019 pan gawson nhw eu lladd.

Datgelodd adroddiad i’w marwolaethau nad oedd gwyliwr swyddogol yn ei le ar y diwrnod y buon nhw farw.

O ganlyniad, derbyniodd Network Rail ddirwy o £3.75 miliwn a gorchymyn i dalu £175,000 mewn costau yn Llys y Goron Abertawe am dorri’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.

Mae teuluoedd Mr Delbridge a Mr Lewis wedi cydnabod y ddedfryd fel cam pwysig wrth fynd i’r afael â’r amgylchiadau wnaeth arwain at eu marwolaethau. 

'Trasiedi'

Dywedodd Cari Sowden-Taylor, Cyd-bennaeth o’r Tîm Anafiadau Difrifol o gwmni cyfreithiol Hugh James: “Ar y 3ydd o Orffennaf, 2019, collodd Gareth Delbridge a Michael Lewis eu bywydau, gan adael gwagle ym mywydau’r teuluoedd ac ymhlith y rheini oedd yn eu hadnabod.

“Y peth sy’n gwneud y drasiedi hon yn waeth yw bod modd atal eu marwolaethau.

“Mae methiant eu cyflogwyr a’r rheolydd i weithredu a gorfodi rheolau diogelwch priodol wedi arwain at eu marwolaethau.

“Ni ddylai hyn erioed fod wedi digwydd ac mae angen atebolrwydd i sicrhau nad oes rhaid i unrhyw deulu arall dioddef colled mor annychmygol."

Ychwanegodd: “Er ein bod ni’n cydnabod y datblygiad o ran diogelwch gweithwyr trac ers marwolaethau Gareth a Mike, rydym yn annog holl hapddalwyr yn y diwydiant rheilffyrdd i barhau i flaenoriaethu a gwella mesurau diogelwch. 

"Ni ddylai unrhyw fywyd gael eu rhoi mewn perygl oherwydd methiannau systemig neu amddiffyniadau anaddas.

"Er na all unrhyw faint o newid dod â Gareth a Mike yn ôl, rydym yn parhau ein hymrwymiad i sicrhau bod eu marwolaethau yn arwain at welliannau parhaol i ddiogelwch y rheilffyrdd.”

Mae Network Rail wedi dweud eu bod nhw wedi parhau i “drawsnewid diogelwch ei weithlu trwy ddatblygu technoleg newydd ac offer cynllunio,” er mwyn dileu’r angen i staff orfod weithio ar y rheilffordd pan mae trenau’n rhedeg.

Maen nhw’n dweud eu bod nhw eisoes wedi ymrwymo buddsoddiad o £70 miliwn i olrhain mentrau diogelwch gweithwyr, ac wedi buddsoddi cyfanswm o fwy na £300 miliwn i gyflawni lefel “hollol newydd” o ddiwygio arferion gwaith.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.