
Geraint Thomas: Un o sêr disgleiriaf hanes chwaraeon Cymru?
Y Ddraig Goch ar y Champs-Elysees. Mae’n ddelwedd na fydd byth yn diflannu o gof ffans seiclo Cymru.
Fis Gorffennaf 2018, daeth y seiclwr o Gaerdydd, Geraint Thomas, i frig y gamp ar ôl ennill ras seiclo enwoca’r byd – y Tour de France.
Wrth i Thomas gyhoeddi ddydd Llun ei fod yn ymddeol o seiclo proffesiynol ar ddiwedd y tymor, dyna yn sicr fydd yn cael ei ystyried fel un o uchafbwyntiau ei yrfa euraid.
Ond ar ôl iddo dreulio 19 mlynedd fel beiciwr proffesiynol ar y trac ac ar yr hewl, mae’n hawdd anghofio ei holl lwyddiannau eraill.
Dechrau ar y trac
Yn 2007, fe ddaeth Geraint Thomas yn bencampwr y byd yn y felodrôm yn y ras gwrs tîm, ac yntau yn 20 oed.
Ar yr hewl, fe rasiodd Thomas yn ei Tour de France cyntaf yn 2007 hefyd – y Cymro cyntaf i gymryd rhan yn y ras dair wythnos ers Colin Lewis yn 1967.

Fe orffennodd yn olaf ond un allan o 141 – ond fe lwyddodd i gyrraedd diwedd y ras ym Mharis.
Y flwyddyn wedyn, roedd yn rhan o dîm Prydain a enillodd y dwbl – sef y fedal aur ym Mhencampwriaeth Trac y Byd ac aur yn y Gemau Olympaidd yn Beijing.
Ac yn rhan o’r un tîm â Bradley Wiggins, Ed Clancy a Paul Manning, fe lwyddodd i ail-adrodd yr un llwyddiant yn 2012 – ym Mhencampwriaeth y Byd a Gemau Olympaidd Llundain.
Newid trywydd
Wedi ei lwyddiannau ar y trac, fe benderfynodd Geraint ganolbwyntio ar rasio ar yr hewl.
Fel aelod pwysig o Team Sky, fe gynorthwyodd Bradley Wiggins a Chris Froome wrth iddyn nhw ddod y Prydeinwyr cyntaf i ennill y Tour de France.
Yn 2014, fe wnaeth ei farc mewn crys coch Cymru, wrth ennill ras yr hewl yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow.
Yn Tour de France 2017, daeth Thomas y Cymro cyntaf i wisgo’r crys melyn wrth iddo arwain y ras am bedwar cymal, ar ôl ennill y cymal cyntaf mewn ras yn erbyn y cloc.
Ac roedd mwy o hanes ar y gorwel i ‘Titw Thomas’ y flwyddyn wedyn, wrth iddo gyrraedd pinacl ei yrfa drwy ennill y ras y mae pob seiclwr yn breuddwydio ei ennill - Le Tour de France.

Fe oedd y Cymro cyntaf i ennill Le Tour, a phwy a ŵyr - efallai'r unig Gymro a fydd byth yn llwyddo i wneud.
Gyda’r crys melyn a’r Ddraig Goch am ei ysgwyddau, fe fydd araith liwgar Thomas dan gysgod yr Arc de Triomphe – a’r ‘mic drop’ ar y podiwm – yn parhau’n atgof melys i lawer.
Enwogrwydd
Gyda rhagor o lwyddiant daeth rhagor o sylw, ac yn 2018 fe enillodd wobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC ar ôl pleidlais gyhoeddus – o flaen y seren F1 Lewis Hamilton ac ymosodwr Lloegr, Harry Kane.
Yn yr un flwyddyn, cafodd Felodrôm Cenedlaethol Cymru ei hail-enwi yn Felodrôm Geraint Thomas.
Daeth yn agos i ennill y ras eto, gan orffen yn ail yn 2019, a thrydydd yn 2022, gan lwyddo i orffen ar bob gris o'r podiwm yn ystod ei yrfa.

Ac yn ras y Giro d’Italia, fe orffennodd yn ail yn 2023 a thrydydd yn 2024, ddiwrnod cyn ei ben-blwydd yn 38 oed, i danlinellu ei statws fel un o oreuon modern y gamp.
Mae disgwyl iddo gymryd rhan yn y Tour un tro olaf eleni, fel cadfridog i’w dîm, Ineos Grenadiers, tra bod awgrym y gallai ddod a’i yrfa i ben yn y Tour of Britain fis Medi.
Beth bynnag a ddaw dros y misoedd nesaf, does dim amheuaeth y dylai’r cyn feiciwr o glwb Maindy Flyers gael ei ystyried yn un o’r sêr disgleiriaf yn hanes chwaraeon Cymru.
Gyda Syr Gareth Edwards, Gareth Bale, Jess Fishlock, Joe Calzaghe ac Alun Wyn Jones, fe fydd Thomas yn un o'r Cymry fwyaf dylanwadol erioed ym myd y campau yn ei wlad.
Lluniau: Wochit/Getty