Newyddion S4C

Marwolaeth Gwalchmai: Teyrnged teulu i 'ffrind gwych i gymaint'

17/02/2025
Emma Williams

Mae teulu dynes a fu farw ar ôl digwyddiad yng Ngwalchmai, Ynys Môn, ar 6 Chwefror wedi rhoi teyrnged iddi.

Roedd Emma Williams yn 47 oed ac yn byw ar yr ynys. 

Mae ei theulu wedi rhoi’r deyrnged ganlynol iddi: “Roedd Emma yn berson byrlymus, gofalgar a chariadus i fod o gwmpas. 

"Roedd hi’n fam, chwaer, modryb, ac yn ffrind gwych i gymaint o bobl.

“Roedd Emma yn caru ei mab Tommy ac yn ei garu yn ddiamod. Ef oedd y peth pwysicaf yn ei bywyd.

“I Tommy, nid ei fam yn unig oedd hi, ond ei ffrind gorau. Roedd hi'n rhywun y gallai siarad â hi am unrhyw beth. 

"Un o'r rhinweddau niferus yr oedd Tommy'n ei charu am ei fam oedd y gallai wneud i unrhyw un deimlo'n hamddenol yn ei chwmni a byddai bob amser yn gwneud yn siŵr eu bod yn gadael gyda gwên."

'Egni heintus'

Ychwanegodd brawd Emma, ​​Chris: “Cafodd Emma a minnau blentyndod hyfryd, yn llawn hwyl a chwerthin, wedi’u bendithio â rhieni gofalgar a chariadus. 

"Roedd teulu yn bwysig i Emma. Byddaf bob amser yn gweld eisiau ei gwên, ei chwerthin, ei hysbryd gwyllt a'i hegni heintus."

Dywedodd rhieni Emma: “Cyffyrddodd Emma â chymaint o fywydau gyda’i charedigrwydd, ei natur ofalgar a chariadus. Roedd hi'n ffrind ffyddlon i lawer. Daeth ei synnwyr digrifwch ffraeth â chwerthin ble bynnag yr aeth. Roedd hi'n fywiog, yn allblyg ac roedd ei hegni positif yn heintus.

“Roedd Emma yn weithgar ac roedd bob amser yn rhagori ym mhopeth a wnaeth. Roedd meddwl da iawn amdani ble bynnag roedd hi'n gweithio.

“Hoffem ddiolch i’n hannwyl ffrindiau a theulu a’r gymuned am eu meddyliau hyfryd a’u cydymdeimlad twymgalon sydd wedi bod yn destun cysur i ni gyd.”

Mae swyddogion arbenigol yn parhau i gefnogi teulu Emma yn ystod y cyfnod anodd hwn tra bod ymchwiliadau i’w marwolaeth yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.