Geraint Thomas i ymddeol o'r byd seiclo
Geraint Thomas i ymddeol o'r byd seiclo
Mae Geraint Thomas wedi cyhoeddi y bydd yn ymddeol o fyd y seiclo ddiwedd y tymor.
Fo yw'r Cymro sydd wedi cael y mwyaf o lwyddiant yn y gamp gan gipio teitl Tour de France yn 2018.
Mae hefyd wedi ennill dwy fedal aur Olympaidd a thri theitl Pencampwriaeth y Byd.
Wrth wneud y cyhoeddiad ar ei gyfrif Instagram mae'n dweud, "Dyw e ddim wedi bod yn rhediad rhy wael nagyw? Doeddwn i fyth wedi dychmygu y byddwn i yn broffesiynol am 19 mlynedd."
Wrth siarad â’r BBC dywedodd y bydd nawr yn cymryd amser i adlewyrchu ar yr hyn mae wedi cyflawni a bod hynny ddim yn digwydd pan rydych chi "yn ei chanol hi" yn rasio yn gyson.
Dywedodd hefyd y bydd yn manteisio ar y cyfle i dreulio mwy o amser gyda’i deulu, gan gynnwys ei wraig Sara a’u mab pump oed, Macs.
“Rwy’n edrych ymlaen at yr ochr yna o bethau” meddai.
Mae’r seiclwr dal yn benderfynol o gyflawni heriau eraill yn y byd chwaraeon gan ddweud ei fod eisiau cwblhau ras Ironman.
“Dwi ond yn rhedeg dwy neu dair gwaith y flwyddyn felly mae angen tipyn o waith arna’i! Mae’n ymwneud gyda herio fy hunan mewn ffyrdd gwahanol.”
Fe fydd Geraint Thomas yn cymryd rhan yn y Tour de France eto eleni gan obeithio dod â’i yrfa ddisglair i ben yn y Tour of Britain ym mis Medi.
Fe allai rhan olaf y ras gael ei chynnal yng Nghaerdydd ble gafodd Thomas ei eni.
Mae'n bwriadu dychwelyd i’r brifddinas ar ôl ymddeol a dywedodd y byddai dod â’i yrfa i ben yno yn “epic.”