Newyddion S4C

'Anhygoel': Kneecap yn dod i'r brig yng Ngwobrau Ffilm BAFTA 2025

17/02/2025
Kneecap

Mae cyfarwyddwr ffilm am dri rapiwr o Belfast sydd yn ceisio achub eu mamaith wedi dod i’r brig yng Ngwobrau Ffilm BAFTA 2025.

Fe enillodd Rich Peppiatt wobr Ffilm Gyntaf Arbennig Gan Awdur, Cyfarwyddwr neu Gynhyrchydd Prydeinig ar gyfer y ffilm Kneecap yn Llundain nos Sul.

Mae’r ffilm gomedi – sydd yn cynnwys yr actor Michael Fassbender – yn dilyn hynt a helynt lliwgar y rapwyr Liam Og O Hannaidh, Naoise O Caireallain a JJ O Dochartaigh. Maent yn ceisio achub eu mamiaith, y Wyddeleg, trwy eu cerddoriaeth.

“Mae’n anhygoel i weld sut mae cynulleidfaoedd wedi derbyn y ffilm.

“Mae’r stori yn dathlu cenhedlaeth newydd o bobl ifanc sydd eisoes yn byw eu bywydau drwy gyfrwng y Wyddeleg ac sydd eisiau lledaenu harddwch yr iaith ymhellach,” meddai Mr Peppiatt ar ôl iddo ennill y wobr. 

Angen 'mwy' o ffilmiau Gwyddeleg

Wrth siarad ar y carped coch cyn y seremoni, fe ddywedodd O Caireallain, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Moglai Bap, y byddan nhw’n “hynod o falch” pe bydden nhw yn ennill gwobr Ffilm Brydeinig Arbennig. 

“Byddai'r ffilm gyntaf yn yr iaith Wyddeleg i ennill y wobr honno, rwy’n dychmygu,” meddai. 

Ychwanegodd Mr Peppiatt ei fod yn gobeithio y bydd “llawer mwy” o ffilmiau a chynhyrchwyr Gwyddeleg yn yr un sefyllfa yn y dyfodol.

“Mae’r ffaith bod y bois yn sefyll yma gyda ffilm yng Ngwyddeleg yn brawf o wytnwch yr iaith.” 

Cafodd y ffilm Kneecap ei henwebu mewn pum categori arall ar y noson gan gynnwys: Ffilm Ddim yn yr Iaith Saesneg, Sgript Wreiddiol, Castio, Golygu, Ffilm Brydeinig Arbennig.

Cafodd ei dangos am y tro cyntaf yng Ngŵyl Ffilm Sundance ym mis Ionawr y llynedd, pan ddaeth y ffilm Wyddeleg gyntaf i ennill Gwobr y Gynulleidfa yn adran NEXT yr ŵyl.

Enillwyr BAFTA 2025

Roedd y ffilmiau Conclave a The Brutalist ymhlith enillwyr mwyaf y noson ar ôl ennill pedair gwobr yr un. 

Conclave enillodd rhai o brif wobrau’r noson, gan gynnwys Ffilm Gorau a Ffilm Brydeinig Arbennig. 

Adrien Brody daeth i’r brig yng nghategori’r Actor Gorau ar gyfer ei ran yn The Brutalist. Mikey Madison enillodd Actores Gorau am ei rhan yn y ffilm Anora. 

Fe lwyddodd Brady Corbet i gipio’r brif wobr yng nghategori cyfarwyddo gyda'r ffilm The Brutalist. 

Fe lwyddodd y ffilmiau Wicked, Emilia Pérez, Anora, Dune: Part Two, A Real Pain and Wallace and Gromit: Vengeance Most Fowl i ennill dwy wobr yr un. 

Llun: Ian West/PA Wire

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.