Cyhuddo llanc 18 oed yn dilyn gwrthdaro rhwng cefnogwyr pêl-droed yng Nghaerdydd
16/02/2025
Mae Heddlu De Cymru wedi cyhuddo llanc 18 oed yn dilyn anhrefn yng nghanol y brifddinas cyn y gêm bêl-droed rhwng Caerdydd a Bristol City ddydd Sadwrn.
Cafodd heddlu ar geffylau a swyddogion arbenigol ar drefn cyhoeddus eu galw i’r digwyddiad ger cyffordd Heol Eglwys Fair a Stryd Wood.
Dywedodd y llun ddydd Sadwrn eu bod nhw wedi arestio un dyn.
Mae llanc 18 oed o Sir De Caerloyw wedi’i gyhuddo o drosedd yn erbyn y drefn gyhoeddus ac wedi’i ryddhau ar fechnïaeth.