Annog Llywodraeth y DU i weithredu i osgoi cau tafarndai
Mae'r corff sy'n cynrychioli tafarndai ac yr diwydiant cwrw yn annog Llywodraeth y DU i weithredu ar frys er mwyn atal rhagor o dafarndai rhag gorfod cau.
Yn ôl ffigyrau diweddaraf Cymdeithas Cwrw a Thafarndai Prydain (BBPA), fe gaeodd bron i 300 o dafarndai ar draws Cymru a Lloegr yn 2024 – sy’n cyfateb i chwech yr wythnos.
Dywedodd y corff, sy'n cynrychioli mwy na 20,000 o dafarndai, fod 289 o dafarndai wedi cau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Yng Nghymru fe gaeodd 19 o allan o gyfanswm o 2,924 o dafarndai yn ystod 2024, meddai'r gymdeithas.
Mae’r BBPA yn dweud bod modd atal cau'r niferoedd uchel o dafarndai os bydd Llywodraeth y DU yn cadw at ei hymrwymiad i ddiwygio trethi busnes.
Byddai ailwampio trethi busnes ar gyfer tafarndai a bragdai ynghyd â chyflwyno costau cyflogaeth newydd yn raddol, yn arafu cau diangen, meddai’r BBPA.
Mae tafarndai a bragdai ymhlith y sectorau busnes sy’n cael eu trethu fwyaf yn y DU meddai'r gymdeithas.
Maent yn dweud bod angen i'r Llywodraeth barhau i gefnogi'r sector am eu bod yn cyfrannu dros £34 biliwn i’r economi mewn un flwyddyn yn unig ac yn cefnogi mwy na miliwn o swyddi.
'Mwy o gostau'
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol y BBPA Emma McClarkin bod pobl yn defnyddio tafarndai.
"Mae'r galw yna gan ddefnyddwyr. Ond mae'r elw'n cael ei ddileu gyda biliau uchel ac mae tafarndai'n wynebu mwy fyth o gyfraddau a chostau ym mis Ebrill.
“Rydym y tu ôl i genhadaeth Llafur i gynyddu twf a gallwn sicrhau’r hwb economaidd hwn ledled y DU, ond dim ond os yw’n haws i dafarndai gadw eu drysau ar agor."
Ychwanegodd y BBPA y bydd problemau pellach ym mis Ebrill pan fydd rhyddhad ar drethi busnes yn gostwng o 75% i 40%. Bydd hyn yn arwain at fwy na dyblu biliau ar gyfer y rhan fwyaf o dafarndai.
'Cefnogi' tafarndai
Bydd costau cyflogaeth newydd a chychwyn y dreth botel gwrw yn ychwanegu at y pwysau ariannol, medden nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Mae tafarndai llewyrchus yn aml wrth galon ein cymunedau, ac rydyn ni’n cymryd camau i’w cefnogi drwy gyflwyno cyfradd fusnes is parhaol newydd o 2026.
“Bydd mwy na hanner holl gyflogwyr y DU naill ai’n gweld toriad neu ddim newid yn eu biliau Yswiriant Gwladol y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn gwneud mwy i gefnogi ein strydoedd mawr drwy fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ac eiddo gwag.”