Rob Phillips: Un o leisiau pêl-droed Cymru yn 'rhoi'r gorau' i'w swydd
Mae un o leisiau mwyaf adnabyddus byd pêl-droed Cymru wedi cyhoeddi ei fod yn "rhoi'r gorau" i'w swydd.
Mae Rob Phillips wedi bod yn newyddiadurwr a sylwebydd pêl-droed gyda'r BBC yng Nghymru ers 28 mlynedd, gan sylwebu ar rai o gemau fwyaf cofiadwy’r tîm cenedlaethol ar orsaf Radio Wales.
Ond mewn neges ar gyfrwng cymdeithasol X ddydd Sul, fe ddatgelodd ei fod wedi gadael ei rôl fel Gohebydd Pêl-droed.
Daw wedi iddo ddweud ar raglen drafod pêl-droed Call Rob ar 8 Chwefror mai dyna oedd y rhifyn olaf erioed o'r rhaglen.
Dywedodd ar y pryd ei fod yn "rhoi'r gorau" i'w rôl fel gohebydd ond yn parhau yn "ran o deulu Radio Wales".
Mewn neges ar X, dywedodd Rob Phillips: “Fel y bydd rhai ohonoch yn gwybod, ar ôl 28 o flynyddoedd o gyflogaeth llawn amser gyda BBC Wales, rydw i wedi rhoi gorau i fy rôl fel Gohebydd Pêl-droed, swydd rwyf wedi’i wneud ers 13 o flynyddoedd cofiadwy.
“Prin yw’r rhai all ddweud mai eu diddordeb a’u hangerdd yw eu swydd. Mae wedi bod yn fraint.”
Inline Tweet: https://twitter.com/robphillipshere/status/1891090047618658776
Dywedodd hefyd fod cyflwyno Call Rob wedi “ychwanegu dimensiwn arall” i’w swydd.
“Mae hwn yn fwy o ‘au revoir’ na ffarwel,” ychwanegodd, mewn neges i'w 17,500 o ddilynwyr.
“Mi fydda’ i dal yn y gemau ac ar y tonfeddi, ond hyd yn oed yn fy oedran i mae’r bennod newydd yn cychwyn yma.”
Ymhlith y rhai a wnaeth ymateb i'w neges a dymuno'n dda iddo oedd y newyddiadurwr Henry Winter a'i gyd-sylwebydd Ian Darke.
Wrth ymateb i'r newydd, dywedodd y cyn ymosodwr Cymru a chyd-sylwebydd, Iwan Roberts: "Yn anffodus, mae popeth sy'n dda yn dod i ben Roberto. Mae wedi bod yn bleser gweithio hefo ti...fe wnes di ddysgu gymaint i mi, yn enwedig pa mor bwysig yw paratoi."
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Wales y byddai Rob Phillips yn "parhau yn ran o deulu BBC Radio Wales", er nad oedd cadarnhad eto ynglŷn â'i rôl yn y dyfodol.
Fe fydd y rhaglen Radio Wales Sports Phone-in yn parhau, gyda Carl Roberts yn cyflwyno'r rhaglen gyntaf ar ei newydd wedd ddydd Sadwrn.
Llun: BBC Cymru