Newyddion S4C

FBI yn ymuno ag ymchwiliad i lofrudd Southport Axel Rudakubana

16/02/2025
Axel Rudakubana

Mae’r FBI ac Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau wedi cytuno i helpu heddlu’r DU i ymchwilio i lofrudd Southport Axel Rudakubana.

Cafodd y llanc 18 oed ei garcharu am o leiaf 52 mlynedd ym mis Ionawr ar ôl llofruddio tair merch mewn dosbarth dawnsio ym mis Gorffennaf y llynedd.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) a Heddlu Glannau Mersi: “Mae ymosodiad Southport wedi difetha bywydau’r dioddefwyr, eu teuluoedd a’r gymuned ehangach.

“Mae Erlynydd CPS cyswllt arbenigol yn yr Unol Daleithiau wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid rhyngwladol i gael deunydd a allai fod yn berthnasol.

“Rydym yn ddiolchgar i Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau a’r FBI am eu cymorth parhaus a’r pwysigrwydd y maent wedi’i roi ar ein cais.”

Yn ôl adroddiadau, mae ymchwilwyr bellach yn gobeithio dod o hyd i chwiliadau wedi'u dileu o gyfrifon Google a Microsoft y llofrudd.

Fe ddaeth yr heddlu o hyd i nifer o ddyfeisiadau yn ystod archwiliad o gartref Rudakubana yn Banks, Sir Caerhirfryn.

Bu farw Alice da Silva Aguiar, 9 oed, Bebe King, 6 oed, ac Elsie Dot Stancombe, 7 oed, yn yr ymosodiad ar ôl cael eu trywanu gan Rudakubana, oedd yn 17 oed ar y pryd.

Roedd wedi dileu ei hanes ar-lein cyn iddo adael i deithio i'r stiwdio ddawns The Hart Space yn Southport, toc wedi 11:00.

Roedd wedi chwilio ar wefan cyfryngau cymdeithasol X am drywanu’r Esgob Mar Mari Emmanuel, ychydig funudau cyn iddo adael cartref, meddai’r heddlu.

'Fe allai gymryd blynyddoedd'

I ddatgelu'r hyn yr oedd Rudakubana wedi bod yn chwilio amdano yn y dyddiau a'r misoedd cyn hynny, roedd angen i dditectifs fynd trwy gwmnïau o'r UDA sef Microsoft a Google.

Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, Ditectif Brif Arolygydd Jason Pye ym mis Ionawr fod y broses i gael y wybodaeth yn parhau, ond “gallai fod yn flynyddoedd”.

Pe bai'r digwyddiad wedi cael ei ystyried yn ymosodiad terfysgol, meddai, fe allai'r broses fod wedi bod yn haws.

Dywedodd: “Mae ein hachos wedi bod erioed, yn seiliedig ar y dystiolaeth, nid gwrthderfysgaeth mohono. Nid oes dim o ran ideoleg.

“Felly allwn i ddim mynd i lawr y llwybr hwnnw i geisio cael y wybodaeth honno yn gyflymach.

“Mae yna broses o’i gael yn gyflymach, ond oherwydd ei fod yn y categori troseddau trefniadol difrifol, troseddau mawr, yn anffodus, ni allaf ei gael mor gyflym ag yr hoffem."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.