Buddugoliaeth i Elfyn Evans yn Rali Sweden
Mae’r Cymro Elfyn Evans wedi ennill Rali Sweden ar ddiwedd tri chymal olaf ddydd Sul.
Roedd Evans, 36 oed, yn arwain dros nos o dair eiliad i Takamoto Katsuta o Japan yn yr ail safle.
Fe ddechreuodd pethau’n wael i Evans a’i gyd-yrrwr Scott Martin fore dydd Sul wrth i Katsuta gipio’r blaen yn y rali wrth ennill cymal cyntaf y dydd.
Ond fe darodd Evans yn ôl i ennill yr ail gymal i arwain o 3.7 eiliad yn unig.
Evans oedd y cyflymaf eto ar y trydydd cymal i sicrhau’r fuddugoliaeth yn y rali o 3.8 eiliad.
Fe ddaeth Evans yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd ar ôl iddo ennill rali ola’r tymor yn Japan ar ddiwedd mis Tachwedd.
Yna fe ddaeth yn ail ar Rali Monte-Carlo fis diwethaf yn rownd agoriadol y bencampwriaeth eleni.
Mae’r fuddugoliaeth yn Sweden nawr yn golygu bod Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd dros Sébastien Ogier o Ffrainc, oedd heb gystadlu yn Sweden.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1891098467826626615