America a Rwsia yn cyhoeddi trafodaethau i geisio dod â rhyfel Wcráin i ben
America a Rwsia yn cyhoeddi trafodaethau i geisio dod â rhyfel Wcráin i ben
Fe fydd trafodaethau yn cael eu cynnal "dros y dyddiau nesaf" gyda'r nod o ddod â’r rhyfel yn Wcráin i ben.
Fe fydd Ysgrifennydd Gwladol America, Marco Rubio, yn cwrdd â swyddogion o Rwsia yn Saudi Arabia.
Dywedodd un o lysgenhadon America i Wcráin, Keith Kellog, fod Washington, Moscow a Kyiv yn rhan o’r trafodaethau, ond nad oedd gwledydd Ewrop wedi eu gwahodd.
Yn ôl Arlywydd Wcráin, Volodymyr Zelensky, nid oedd swyddogion o’r wlad wedi eu gwahodd i’r trafodaethau.
Gyda gwledydd Ewrop yn pryderu am beidio cael eu cynnwys gan lywodraeth Donald Trump mewn unrhyw drafodaethau am y rhyfel, mae cynhadledd wedi’i threfnu ar frys ym Mharis.
Fe fydd Syr Keir Starmer ymhlith yr arweinwyr Ewropeaidd fydd yn y gynhadledd wythnos nesaf, a dywedodd ei fod yn gyfle "unwaith mewn cenhedlaeth i’n diogelwch cenedlaethol".
Dywedodd hefyd bod yn rhaid i wledydd Ewrop gymryd rôl ehangach o fewn grŵp Nato, wedi i lywodraeth Trump rhoi pwysau ar eu cynghreiriad i gynyddu eu gwariant milwrol.
Dywedodd Syr Keir y byddai’r DU yn “gweithio i gadw’r Unol Daleithiau ac Ewrop gyda’i gilydd”, gan ychwanegu na allai’r ddau “ganiatáu i unrhyw raniadau” o fewn Nato “dynnu sylw” oddi wrth elynion allanol.
“Mae’n amlwg bod yn rhaid i Ewrop chwarae mwy o ran yn Nato wrth i ni weithio gyda’r Unol Daleithiau i sicrhau dyfodol Wcráin ac wynebu’r bygythiad sy’n ein hwynebu gan Rwsia," meddai.
Daw wedi i Zelensky alw am sefydlu “byddin Ewrop” mewn cynhadledd ym Munich ddydd Sadwrn, gyda phryderon am barodrwydd America i barhau i gynorthwyo ymdrechion Wcráin yn erbyn Rwsia yn y dyfodol.