Elfyn Evans yn arwain Rali Sweden ar ddiwedd y trydydd diwrnod
Mae’r Cymro Elfyn Evans ar y blaen ar ddiwedd trydydd diwrnod Rali Sweden.
Roedd Evans y cyflymaf ar ddau o saith cymal y rali ddydd Sadwrn yn ei Toyota Yaris.
Fe ddechreuodd y rali ddydd Iau a bydd yn dod i ben yn dilyn tri chymal ddydd Sul.
Mae gan Evans dair eiliad yn unig o fantais dros Takamoto Katsuta, sydd hefyd yn gyrru i dîm Toyota.
Fe ddaeth Evans yn ail ym Mhencampwriaeth y Byd y llynedd ar ôl iddo ennill rali ola’r tymor yn Japan ar ddiwedd mis Tachwedd.
Yna fe ddaeth yn ail ar Rali Monte-Carlo fis diwethaf yn rownd agoriadol y bencampwriaeth eleni.
Os fydd yn llwyddo i gadw ar y blaen ar Rali Sweden yna bydd Evans yn arwain Pencampwriaeth y Byd dros Sébastien Ogier o Ffrainc sydd ddim yn cystadlu yn Sweden.
Inline Tweet: https://twitter.com/RalioS4C/status/1890821186818359489
Llun: X/ElfynEvans