Tri gwystl Israel wedi eu rhyddhau yn Gaza
Mae tri o wystlon Israel wedi eu rhyddhau gan Hamas yn Gaza.
Fe wnaeth Israel ryddhau 369 o garcharorion Palesteinaidd yn hwyrach ddydd Sadwrn fel rhan o'r cytundeb cadoediad.
Dyma’r chweched tro i wystlon gael eu cyfnewid yn ystod y cadoediad rhwng Hamas ac Israel.
Daw yn dilyn ofnau yn gynharach yn yr wythnos y gallai’r cytundeb ddod i ben, gydag Arlywydd America, Donald Trump yn galw ar Hamas i ryddhau'r holl wystlon.
Dywedodd Israel pe na bai gwystlon yn cael eu rhyddhau erbyn canol dydd (amser lleol) ddydd Sadwrn, y byddai'n ailddechrau ymosodiadau ar Gaza.
Ond bellach mae byddin Israel (IDF) yn adrodd eu bod wedi derbyn tri gwystl ar ôl iddynt gael eu trosglwyddo i'r Groes Goch.
Mae'r tri gwystl â dinasyddiaeth ddeuol; mae Alexander Troufanov â dinasyddiaeth Israel-Rwsia, Yair Horn â dinasyddiaeth Israel-Ariannin a Sagui Dekel-Chen â dinasyddiaeth Israel-America.
Llun: Wochit