Newyddion S4C

S4C: Cyn-brif weithredwr yn cyflwyno achos o niwed personol yn erbyn y darlledwr

Newyddion S4C 14/02/2025

S4C: Cyn-brif weithredwr yn cyflwyno achos o niwed personol yn erbyn y darlledwr

Mae cyn-brif weithredwr S4C wedi cyflwyno achos o niwed personol yn erbyn ei chyn-gyflogwr yn yr Uchel Lys.

Cafodd Sian Doyle ei diswyddo o'i swydd gyda'r darlledwr ym mis Tachwedd 2023 ar ôl cael ei chyhuddo o "ymddwyn fel unben a chreu diwylliant o ofn".

Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, dywedodd cyfreithiwr Ms Doyle iddi ddioddef "cyfnod cwbl eithriadol ac anaddas o gam-driniaeth" sydd wedi "niweidio ei hiechyd a'i lles yn ddifrifol" tra yn brifweithredwr.

Cyflwynodd Ms Doyle ei hachos i'r Uchel Lys ar Chwefror 7fed, gan enwi S4C a chyn-gadeirydd y darlledwr, Rhodri Williams, fel diffinyddion.

Dan reolau'r llys, mae gofyn iddi gyflwyno manylion ei hachos o fewn pythefnos i gyflwyno'r cais - gan amlinellu'r niwed personol iddi a'r iawndal mae'n hawlio.

Pan gysylltodd Newyddion S4C gyda chyfreithwyr Sian Doyle i ofyn ynghylch manylion ei chwyn, dywedodd ei chynrychiolydd cyfreithiol:

"Gallaf gadarnhau, oherwydd methiant hir ac afresymol gan S4C a Rhodri Williams i gytuno a'n cynnig i gymodi a'r oedi annerbyniol o ran ymateb i lythyr yn amlinellu'r cynnig, mae hawliadau cyfreithiol heb eu capio [uncapped] wedi eu cyflwyno yn yr Uchel Lys yr wythnos hon," meddai.

"Mae'r hawliadau yma am esgeulustod (methiant o ran dyletswydd o ofal i'n cleient), aflonyddu anghyfreithlon, camweithrediad mewn swydd gyhoeddus, torri hawliau preifatrwydd, torri cyfrinachedd a thorri rheolau diogelu data.

"Yn weithiwr ifanc neu brofiadol, ddylai neb gael eu trin yn y modd hwn, gan gorff a chadeirydd sydd â rheidrwydd cyfreithiol i ymddwyn yn gyfreithlon, yn deg ac yn unol ag egwyddorion Nolan sydd yn llywodraethu ymddygiad mewn swydd gyhoeddus."

 Anfonodd gwr Ms Doyle, Rob Doyle, y datganiad canlynol:

"Rwy'i wedi fy nhristau yn fawr gan yr effaith ddirdynnol mae triniaeth fy ngwraig gan S4C a'r cyn-gadeirydd wedi ei gael ar Sian a fy nheulu. Mae'r trallod a'r niwed emsiynol mae wedi dioddef yn enbyd ac mae'n effeithio ar bob agwedd o'i lles."

"Mae'r camdriniaeth yna sydd yn dal i barhau ac wedi achosi niwed parhaus. Rydyn ni am sicrhau cyfiawnder llawn dan gyfraith y D.U ac egwyddorion Nolan."

'Dim rhybudd'

Wedi i undeb llafur Bectu gwyno am "ddiwylliant o fwlio" o fewn i S4C ddwy flynedd yn ôl, cyhoeddodd y cyn-gadeirydd Rhodri Williams ar raglen Newyddion S4C y byddai ymchwiliad annibynnol yn ymchwilio i'r honiadau.

Penodwyd cwmni cyfreithiol Capital Law i ymgymryd a'r gwaith, gyda 92 o bobl yn rhoi tystiolaeth am yr awyrgylch gwaith yn S4C.

Yn ôl yr adroddiad, bu i ddeg o bobl lefain wrth roi eu tystiolaeth, gydag 11 yn dweud i weithio yn S4C fod "yn niweidiol i'w hiechyd".

Cafodd rhai eu dyfynnu yn dweud i Sian Doyle yn uniongyrchol niweidio eu hiechyd.

Dywedodd un: "Roedd y Prif Weithredwr wedi fy rhoi mewn sefyllfa gas iawn, llawer o staff eraill hefyd, roeddwn yn ymwybodol o hynny...roedd fy ffrindiau a fy nheulu yn poeni llawer am fy iechyd meddwl ar y pryd."

"Roeddwn i wedi dod yn ddagreuol iawn. Allwn i ddim cysgu."

Honodd gweithiwr arall iddyn nhw ddioddef "digwyddiad iechyd sylweddol" wedi "sgwrs fywiog" gyda Ms Doyle, gyda honiad i'r Prif Weithredwr ddweud y byddai'n cael gwared ar "o leiaf 50" o bobl oedd "ddim yn werth poeni amdanynt."

Dywedodd Ms Doyle ar y pryd "Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu a'i ddarparu gan y Cadeirydd felly dyw hi'n ddim syndod, o 92 o bobl oedd yn rhan o'r ymchwiliad, i'r adroddiad ganolbwyntio ar farn lleiafrif bach.

"Chefais i ddim rhybudd y byddai'r adroddiad yn cael ei gyhoeddi heddiw, dw'i heb gael cynnig cyfle i ymateb gan S4C ac fe ddarllenais i'r adroddiad gyntaf yn y cyfryngau."

Doedd S4C na Rhodri Williams ddim am wneud sylw am yr achos arfaethedig yn yr Uchel Lys na datganiadau cyfreithwyr Sian Doyle.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.