'Doniol iawn': Datgelu gêm gyfrinachol roedd yr Adar Gleision yn arfer ei chwarae
Mae cyn-chwaraewr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd wedi datgelu gêm gyfrinachol roedd yn arfer ei chwarae gydag aelodau o'r tîm yn ystod gemau.
Dywedodd Lee Peltier, a chwaraeodd 163 o gemau i'r Adar Gleision, ei fod yn arfer chwarae'r 'Gêm 50c' yn ystod rhai o gemau'r clwb.
Roedd y gêm yn golygu pasio darn 50c i'w gyd-chwaraewyr, gyda'r person oedd yn ei ddal ar ddiwedd y gêm yn gorfod talu am bryd o fwyd i bawb.
"Roeddet ti'n pasio'r darn 50c i aelod arall o'r tîm, ond doedd yr aelod hwnnw ddim yn cael ei wrthod," meddai wrth siarad ar bodlediad The Football Historian.
"Felly, erbyn diwedd y gêm, roedd yn rhaid i'r person oedd efo'r 50c dalu am bryd o fwyd i bawb.
"Roeddet ti jyst yn gweld pawb yn bomio o gwmpas, roedd o'n ddoniol iawn."
'Ennill'
Dywedodd Peltier nad oedd rheolwr y tîm yn ymwybodol o'r gêm.
"I fod yn deg, doedd gan y rheolwr ddim syniad, achos os byddai'n gwybod, mae'n debygol y byddai wedi gwylltio," meddai.
"Ond mi natho ni ei chwarae cwpl o weithiau, fel arfer tuag at ddiwedd y tymor pan doedd o ddim am effeithio ar berfformiad neu ganlyniad.
"Ac mi natho ni ennill y ddwy waith ddaru ni chwarae'r gêm!"
Yn ôl Peltier, nid oedd erioed wedi gorfod talu am bryd o fwyd ar ôl gêm.
Ond dywedodd bod ganddo atgofion melys o chwarae'r 'Gêm 50c' yn ystod ei amser gyda Chaerdydd.
"Ro'n i ar fin taflu'r bêl yn ôl ar y cae a dw i'n meddwl bod 'na glip ohona i lle mae'r ceiniog yn fy ngheg i," meddai.
"A dw i'n cofio'r gôl-geidwad, Dave Marshall, yn y gôl ac roedd 'na gic cornel. Nath rhywun basio'r geiniog iddo, felly mae wedi ei gael ac mae'n ei roi wrth ymyl ei bostyn gôl tra ei fod yn amddiffyn y gornel.
"Ar ôl y gic cornel, mae'n ei godi ac yn rhedeg ar ôl un o'r canolwyr!"
Fe wnaeth Peltier chwarae i'r Adar Gleision rhwng 2015 a 2020, gan adael i ymuno â West Bromwich Albion.
Llun: Steve Paston/PA