Newyddion S4C

Ymgyrchwyr yn ‘siomedig’ gydag adroddiad am ail-agor rheilffordd i Afon Wen

15/02/2025
Tram 398

Mae ymgyrchwyr wedi dweud eu bod nhw’n “siomedig” gydag adroddiad oedd wedi ei gomisiynu gan Drafnidiaeth Cymru yn edrych ar ail-agor y rheilffordd o Afon Wen i Fangor.

Byddai ailagor rheilffordd Afon Wen yn “heriol” meddai'r adroddiad oherwydd bod cymaint o adeiladau, pontydd isel a ffyrdd newydd ar lwybr yr hen reilffordd.

Cafodd yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan AtkinsRéalis ei gomisiynu gan Drafnidiaeth Cymru a oedd eisiau gweld pa mor bosib fyddai ailagor y rheilffordd.

Dywedodd grŵp pwyso Traws Link Cymru eu bod nhw’n siomedig gyda chasgliad yr adroddiad mai rheilffordd ysgafn gyda tren/tram fyddai yn addas.

Byddai hynny, meddai'r adroddiad, yn cyfyngu cyflymder y trên i 75mya.

Cafodd Traws Link Cymru ei ffurfio yn 2013 i adfer y rheilffyrdd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin a Bangor ac Afon Wen.

Dywedodd cadeirydd y grŵp pwyso, Dylan Wilson-Lewis: "Rydym yn croesawu cyhoeddi'r adroddiad ond yn mynegi siom ei fod yn canolbwyntio ar ddatrysiad rheilffordd ysgafn.

 “Mae TLC bob amser wedi cefnogi adfer y llwybr rheilffyrdd trwm llawn a gaewyd ym 1964, a fyddai'n adfer y rhanbarth i rwydwaith rheilffyrdd Cymru ac yn darparu gwell opsiwn o ddefnyddio cerbydau presennol i gynyddu cysylltedd rhyngranbarthol cymaint â phosibl drwy ymestyn gwasanaethau prif lein reolaidd ledled y rhanbarth a thu hwnt.”

‘Cost ychwanegol’

Dywedodd yr adroddiad y byddai angen i unrhyw reilffordd fod ar ffurf tram Dosbarth 398 er mwyn gallu defnyddio rhai rhannau o lwybr y rheilffordd sydd bellach yn ffyrdd.

Roedd yr angen i fynd drwy ganol Caernarfon yn golygu y bydd rhannau o’r siwrne yn mynd drwy ardaloedd poblog “sy'n agos at fusnesau lleol ac eiddo preswyl,” meddai.

Ond dywedodd Traws Link Cymru y byddai rhedeg y rheilffordd ar gyflymder tram yn cyfyngu ar ddefnydd y gwasanaeth wrth “hwyluso gwasanaethau strategol o'r gogledd i'r de, er enghraifft Bangor i Aberystwyth”.

Ychwanegodd: “"Byddai’n rhaid cynnwys y gost ychwanegol hefyd wrth gaffael fflyd cerbydau rheilffyrdd ysgafn newydd y gellid eu defnyddio ar y llinell hon yn unig.”

‘Nifer o heriau’

Yn ôl yr adroddiad fe fyddai yn bosib gosod gorsafoedd rhwng Bangor ac Afon Wen ym Mharc Menai, Y Felinheli, Caernarfon, Dinas, Groeslon, Penygroes, Bryncir and Chwilog.

Dywedodd awduron yr adroddiad eu bod nhw wedi glynu at hen lwybr y rheilffordd lle’r oedd hynny yn bosib ond bod bellach angen nifer o ddargyfeiriadau.

Byddai angen i’r rheilffordd fynd drwy Dwnnel Caernarfon ac yna naill ai chwalu Gorsaf Betrol Morrisons neu ei rhedeg ar hyd Ffordd y Gogledd.

Byddai hefyd angen ail agor un o dwneli'r Faenol er mwyn i’r rheilffordd allu mynd drwyddo.

Byddai mynd o dan Draphont Bontnewydd hefyd yn heriol gan ei bod yn isel ac yn strwythur rhestredig Gradd II, meddai'r adroddiad.

“Mae nifer o heriau yn deillio o’r bwriad i ailagor rheilffordd Afon Wen i Fangor, oherwydd dros y 50 i 60 mlynedd ers i’r rheilffordd gau mae newidiadau mawr wedi bod i’r tir a defnydd y tir yn yr ardal,”  meddai’r adroddiad.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn astudio’r adroddiad er mwyn astudio'r camau nesaf. 

Mae adroddiad ar wahân wedi ei gomisiynu i lwybr Aberystwyth i Gaerfyrddin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.