
O'r gogledd i'r de: Cynllun am wasanaethau bysiau newydd
Mae cynllun ar gyfer gwasanaeth bysiau uniongyrchol rhwng gogledd a de Cymru wedi ei gyhoeddi.
Mae Trafnidiaeth Cymru (TC) a grŵp Arup wedi cyhoeddi cynllun am wasanaeth newydd rhwng Bangor a Chaerfyrddin.
Fe fyddai wyth gwasanaeth yn rhedeg bob dydd, gan stopio mewn naw arhosfan yn unig ar y daith, gan gynnwys Caernarfon, Dolgellau, Machynlleth, Aberystwyth, Aberaeron a Llandysul.
Cafodd cynigion i’r gwasanaeth stopio ym Mhenygroes, Cricieth, Corris a Bow Street eu gwrthod.
Fe fyddai’r gwasanaeth yn cwtogi 90 munud o’r amser mae’n cymryd i wneud y daith ar drafnidiaeth gyhoeddus ar hyn o bryd, yn ôl yr adroddiad.
Mae’r astudiaeth yn amcangyfrif y byddai’r daith yn cymryd 4 awr a 45 munud, sydd o gwmpas awr yn hirach na fyddai’n cymryd i deithwyr mewn car.
Mae TC yn cydnabod bod y galw presennol am fath wasanaeth yn “isel”. Ond mae’r adroddiad yn nodi y gallai’r gwasanaeth gynnig “cyfleoedd i gynyddu twristiaeth gynaliadwy” yn ogystal â chynnig opsiynau teithio mwy fforddiadwy i fyfyrwyr.

Mae posibilrwydd y byddai’r gwasanaeth hefyd yn cryfhau’r achos am “ehangu isadeiledd rheilffyrdd Cymru yn yr hir dymor”.
Dywedodd yr adroddiad: “Er bod y galw am drafnidiaeth gyhoeddus ar y coridor yn isel ar hyn o bryd, mae lle i gynyddu amlder i gyd-fynd â chynnydd yn y gyfran o drafnidiaeth gyhoeddus yn unol â dyheadau Llwybr Newydd (Strategaeth drafnidiaeth Llywodraeth Cymru) a allai o bosibl gefnogi’r achos dros wella’r seilwaith rheilffyrdd yn yr hirdymor.
“Mae’n rhaid cydnabod y cyd-destun ariannu heriol a'r gostyngiad mewn grym gwario. Fodd bynnag, mae'r costau ynghlwm â’r cynllun arfaethedig, gan gynnwys costau gweithredol, yn isel iawn o'i gymharu ag opsiynau seilwaith rheilffyrdd amgen.
“Gallai bws trydan o ansawdd uchel gefnogi blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru, a thwristiaeth garbon isel.
“Mae gwella cysylltedd trafnidiaeth gyhoeddus i gyrchfannau twristiaid allweddol, megis Parc Cenedlaethol Eryri a’r cymysgedd o lwybrau arfordirol a golygfeydd o’r Wyddfa, Penrhyn Llŷn a Bae Ceredigion yn cynnig cyfleoedd i gynyddu twristiaeth gynaliadwy, a chyfleoedd i farchnata’r gwasanaeth i gynyddu’r galw.”
Mae’r adroddiad hefyd yn amlinellu’r ‘risg allweddol’ i’r cynllun yn sgil diwedd y bartneriaeth cyd-weithio rhwng Llywodraeth Cymru a Plaid Cymru, gan ei fod yn rhan o’r cytundeb rhwng y ddwy blaid yn wreiddiol.
Y camau nesaf fydd i gwblhau achos busnes llawn a chadarnhau ffynonellau ariannu gyda Llywodraeth Cymru, yn ôl Trafnidiaeth Cymru. Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus hefyd yn cael ei gynnal, yn ogystal â gwaith i sicrhau’r union gostau ynghlwm â’r prosiect.
(Llun: Trafnidiaeth Cymru/Arup)