Newyddion S4C

Trump yn cyhoeddi trafodaethau ‘i ddod â rhyfel Wcráin i ben’

14/02/2025
Trump / Zelensky / Putin (AFP)

Mae Donald Trump wedi cyhoeddi y bydd trafodaethau rhwng yr Unol Daleithiau, Rwsia a’r Wcráin ddydd Gwener i drafod sut i ddod â’r rhyfel yn Wcráin i ben.

Cyhoeddodd yr Arlywydd Trump y bydd swyddogion o'r tair gwlad yn cyfarfod mewn cynhadledd diogelwch yn ninas Munich yn yr Almaen ddydd Gwener.

Daeth y cyhoeddiad ddyddiau ar ôl i Trump wneud galwadau ffôn â Vladimir Putin a Volodomyr Zelensky ar wahân.

“Bydd Rwsia yno gyda’n pobl ni” meddai. 

“Mae Wcráin hefyd wedi cael gwahoddiad, gyda llaw, dydw i ddim yn siŵr yn union pwy sy’n mynd i fod yno o unrhyw wlad – ond pobol lefel uchel o Rwsia, o’r Wcráin ac o’r Unol Daleithiau.”

Fe ychwanegodd y byddai'r trafodaethau yn “debygol o ddod â'r rhyfel erchyll, gwaedlyd hwnnw i ben".

Ond, ni wnaeth Rwsia, sydd ddim yn mynychu’r gynhadledd flynyddol yn Yr Almaen yn swyddogol, wneud unrhyw sylw ar y cyhoeddiad, a dywedodd uwch swyddog o’r Wcráin nad oedd “sgwrs gyda Rwsia ym Munich i’w disgwyl”.

Mae cynghreiriaid Nato America yn dal i ymateb i gyhoeddiad annisgwyl Trump ar ddechrau’r wythnos ei fod wedi cytuno mewn galwad ffôn efo Putin i ddechrau trafodaethau ar sut i ddod â’r rhyfel i ben.

Cyhoeddodd Trump y bydd y drafodaeth yn cael ei chynnal ar ddydd Gwener, heb roi mwy o fanylion.

Ond, dywedodd cynghorydd Zelensky, Dmytro Lytvyn, wrth ohebwyr nad oedd gan ddirprwyaeth Wcreineg unrhyw gynlluniau i fynychu cyfarfod o'r fath. 

Rhybuddiodd Zelensky - a wnaeth gyfaddef nad oedd “yn braf iawn” bod Trump wedi siarad â Putin yn gyntaf - na fyddai’r Wcráin yn cytuno i unrhyw gytundeb heddwch a gynigir gan yr Unol Daleithiau a Rwsia heb gyfranogiad Kyiv.

“Ni allwn ei dderbyn, fel gwlad annibynnol,” meddai, gan bwysleisio mai ei flaenoriaeth oedd “gwarantau diogelwch”.

Mae Zelensky i fod i gwrdd ag Is-lywydd Trump, JD Vance, yn ogystal ag Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau, Marco Rubio, ym Munich.

Prif lun: Donald Trump, Volodymyr Zelensky, Vladimir Putin (AFP)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.