Newyddion S4C

Trên i Afon Wen? Ailagor llwybr hen reilffordd yn ‘heriol’

Tram 398

Byddai ailagor rheilffordd Afon Wen rhwng Pen Llŷn a Bangor yn “heriol” meddai adroddiad newydd oherwydd bod cymaint o adeiladau, pontydd isel a ffyrdd newydd ar lwybr yr hen reilffordd.

Cafodd yr adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan AtkinsRéalis ei gomisiynu gan Drafnidiaeth Cymru a oedd eisiau gweld pa mor bosib fyddai ailagor y rheilffordd.

Mae’r hen lwybr bellach yn wynebu sawl rhwystr newydd gan gynnwys archfarchnad Morrisons Caernarfon a ffordd yr A55 ac fe fyddai angen traphont o faint sylweddol i’w chroesi, meddai'r adroddiad.

Dywedodd awduron yr adroddiad eu bod nhw wedi glynu at hen lwybr y rheilffordd lle’r oedd hynny yn bosib ond bod bellach angen nifer o ddargyfeiriadau.

Fe gaeodd y rheilffordd yn y 60au o ganlyniad i doriadau Beeching. 

Roedd deiseb yn 2023 yn galw am ail agor y rheilffordd wedi ei arwyddo gan 6,600 o bobl.

Dywedodd yr adroddiad y byddai angen i unrhyw reilffordd fod ar ffurf tram Dosbarth 398 er mwyn gallu defnyddio rhai rhannau o lwybr y rheilffordd sydd bellach yn ffyrdd.

Roedd yr angen i fynd drwy ganol Caernarfon yn golygu y bydd rhannau o’r siwrne yn mynd drwy ardaloedd poblog “sy'n agos at fusnesau lleol ac eiddo preswyl” medden nhw.

75mya fyddai'r mwyaf y gallai trên o’r fath ei gyrraedd, gyda gwasanaethau bob awr neu hanner awr.

Byddai angen i’r rheilffordd fynd drwy Dwnnel Caernarfon ac yna naill ai chwalu Gorsaf Betrol Morrisons nes ei rhedeg ar hyd Ffordd y Gogledd.

Byddai hefyd angen ail agor un o dwneli'r Faenol er mwyn i’r rheilffordd allu mynd drwyddo.

Byddai mynd o dan Draphont Bontnewydd hefyd yn heriol gan ei bod yn isel ac yn strwythur rhestredig Gradd II, meddai'r adroddiad.

Fe fyddai yn bosib gosod gorsafoedd rhwng Bangor ac Afon Wen ym Mharc Menai, Y Felinheli, Caernarfon, Dinas, Groeslon, Penygroes, Bryncir and Chwilog.

“Mae nifer o heriau yn deillio o’r bwriad i ailagor rheilffordd Afon Wen i Fangor, oherwydd dros y 50 i 60 mlynedd ers i’r rheilffordd gau mae newidiadau mawr wedi bod i’r tir a defnydd y tir yn yr ardal,”  meddai’r adroddiad.

Bydd Trafnidiaeth Cymru yn astudio’r adroddiad er mwyn astudio'r camau nesaf. 

Mae adroddiad ar wahân wedi ei gomisiynu i lwybr Aberystwyth i Gaerfyrddin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.