Sgandal Epstein: Yr Arglwydd Mandelson i adael Tŷ'r Arglwyddi
Mae'r Arglwydd Mandelson wedi penderfynu gadael Tŷ'r Arglwyddi, yn ôl Llefarydd y Siambr, ac fe fydd yn gwneud hynny ddydd Mercher.
Roedd y pwysau'n cynyddu ar Mandelson yn sgil honiadau am ei berthynas â'r troseddwr rhyw, Jeffrey Epstein.
Mae honiadau fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i Epstein, tra roedd e'n weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown.
Daeth hynny i'r amlwg ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein ddydd Gwener diwethaf.
Mae Rhif 10 Downing Street wedi cadarnhau fod Swyddfa'r Cabinet wedi trosglwyddo deunydd i'r heddlu, mewn cysylltiad â dogfennau sydd wedi'u cyhoeddi yn ymwneud ag Epstein.
Y gred yw fod y deunydd wedi ei drosglwyddo i'r heddlu ddydd Mawrth.
Roedd Prif Weinidog y DU, Syr Keir Starmer wedi dweud fod angen gweithredu ar frys.
Nos Lun, cyhoeddodd Heddlu Scotland Yard eu bod yn cynnal ymchwiliad i honiadau o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Dywedodd Syr Keir Starmer wrth ei Gabinet ddydd Mawrth bod yr honiadau yn ymwneud â throsglwyddo E-byst hynod o sensitif am weithgareddau'r llywodraeth ar y pryd yn "warthus".
Roedd Prif Weinidog y DU hefyd wedi gofyn i'w swyddogion lunio deddfwriaeth ddrafft, a fyddai'n caniátau i'r cyn-lysgennad yn Llywodraeth Prydain golli ei deitl yn Nhŷ'r Arglwyddi "cyn gynted â bo modd," yn ôl Downing Street.
Mae'r Arglwydd Mandelson yn mynnu nad oedd unrhyw arian gan Epstein wedi dylanwadu ar ei weithredoedd yn y llywodraeth.
Yn ôl Downing Street, dywedodd Syr Keir Starmer wrth ei gabinet ddydd Mawrth na ddylai Peter Mandelson fod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi mwyach na defnyddio ei deitl.
Mae e wedi gofyn i Ysgrifennydd y Cabinet adolygu pob gwybodaeth sydd ar gael, yn ymwneud ag unrhyw gyswllt rhwng yr Arglwydd Mandelson â Jeffrey Epstein, tra roedd yn weinidog yn y cabinet.
Yn ôl dogfennau sydd wedi eu cyhoeddi gan Adran Gyfiawnder America, mae awgrym fod Epstein wedi derbyn manylion trafodaethau mewnol Llywodraeth y DU, wedi'r argyfwng ariannol byd-eang.
Yn y dogfennau, mae'n ymddangos hefyd fod yr Arglwydd Mandelson, a oedd yn ysgrifennydd busnes ar y pryd, wedi dweud wrth Epstein y byddai'n lobïo gweinidogion ar fater taliadau bonws i fancwyr yn 2009.
Cafodd Epstein ei ddarganfod yn farw yn ei gell mewn carchar ym Manhattan yn Awst 2019, tra roedd yn aros am ei achos llys ar gyhuddiad o gyfres o droseddau rhyw.
Andrew
Yn y cyfamser, mae brawd Andrew Mountbatten-Windsor, y Tywysog Edward wedi dweud ei "bod yn bwysig iawn i gofio am y dioddefwyr bob tro" pan gafodd ei holi ar banel addysg yn Dubai am yr hyn sydd yn nogfennau Epstein.
Dyma'r tro cyntaf i uwch aelod o'r Teulu Brenhinol wneud sylw yn gyhoeddus am y mater.
Ym mis Hydref, fe gollodd Andrew Mountbatten-Windsor yr hawl i ddefnyddio'r teitlau tywysog neu Ddug Efrog oherwydd ei gysylltiad â Jeffrey Epstein.
Mae delweddau a gafodd eu cyhoeddi ddydd Gwener diwethaf oddi mewn i ddogfennau Epstein, fel petaen nhw’n dangos Andrew Mountbatten-Windsor yn pwyso dros ddynes.
Does dim awgrym o unrhyw ddrwg weithredu ac mae'r cyn-dywysog, Andrew Mountbatten-Windsor, wedi gwadu iddo wneud unrhywbeth o'i le yn y gorffennol.
Llun: Jonathan Brady/PA