O leiaf 28 wedi'u hanafu ar ôl i gar yrru mewn i grŵp o bobl yn Munich
O leiaf 28 wedi'u hanafu ar ôl i gar yrru mewn i grŵp o bobl yn Munich
Mae car wedi gyrru mewn i grŵp o bobl yn ninas Munich yn yr Almaen gan anafu o leiaf 28 o bobl.
Yn ôl adroddiadau o'r fan a'r lle, fe wnaeth car Mini Cooper yrru i mewn i grŵp o bobl oedd yn ran o wrthdystiad (demonstration) gan aelodau'r undeb masnach Verdi yn ardal Dachauer Strasse y ddinas.
Mae’r heddlu wedi dweud eu bod nhw'n dal y person maent yn credu oedd yn gyrru’r cerbyd, ac maen nhw’n dweud nad yw’r person yn peri unrhyw berygl pellach.
Maen nhw'n dweud mai dyn 24 oed o Afghanistan sydd wedi ei ddal mewn cysylltiad â'r digwyddiad.
Y gred yw bod o leiaf dau berson wedi dioddef anafiadau difrifol.
Mae hofrennydd achub wedi cyrraedd lleoliad y gwrthdrawiad i drin y rhai sydd wedi eu hanafu.
Daw'r digwyddiad bythefnos wedi etholiad cyffredinol yn yr Almaen.
Rhagor i ddilyn.
(Llun: Getty/Wochit)