Pam bod Arne Slot wedi cael cerdyn coch ar ôl gêm Lerpwl ac Everton?
Gwelodd Arne Slot gerdyn coch ar ôl gêm Lerpwl yn erbyn Everton nos Fercher - un o bedwar a gafodd eu dangos ar ôl y chwiban olaf.
Roedd ffrwgwd ar ôl y gêm a orffennodd 2-2 ar ôl i James Tarkowski o Everton sgorio ar 98 munud yng ngêm olaf y ddau glwb yn Goodison Park.
Fe wnaeth chwaraewr canol cae Everton, Abdoulaye Doucoure, gythruddo Curtis Jones o Lerpwl drwy ddathlu'r gêm gyfartal o flaen y cefnogwyr oddi cartref.
Ar ôl i Jones wthio Doucoure dechreuodd ffrwgwd yn gyflym rhwng y ddwy set o chwaraewyr, gyda’r ddau yn derbyn cerdyn coch ar ôl y chwiban olaf.
Fe wnaeth y dyfarnwr Michael Oliver hefyd ddangos cerdyn coch i hyfforddwr Lerpwl Arne Slot a'i gynorthwyydd Sipke Hulshoff.
Ar ôl y chwiban olaf, fe aeth Slot at y dyfarnwr Michael Oliver a siarad ag o.
Fe ysgydwodd Slot law'r dyfarnwr am gyfnod anghyfforddus o hir ac yna dangoswyd cerdyn coch iddo.
Nid yw’r camerâu yn datgelu beth ddywedodd Slot yn ystod ei sgwrs gychwynnol gyda’r dyfarnwr ond yna dywedodd: “Fe ges i gerdyn coch am hynny?”
O ganlyniad doedd dim modd i’r hyfforddwyr gynnal cynhadledd i’r wasg ar ôl y gêm ac mi fydd y ddau yn methu'r gêm nesaf yn erbyn Wolves yn Anfield.
Inline Tweet: https://twitter.com/footballontnt/status/1889816854861947287
Dywedodd y capten Virgil van Dijk ar ôl y gêm: “Fe welsoch chi sut wnaethon nhw ddathlu'r gôl ac mae ganddyn nhw'r hawl i wneud hynny.
“Ond dwi’n meddwl bod Doucoure yn y diwedd eisiau pryfocio ein cefnogwyr, dyna welais i, a doedd Curtis ddim yn meddwl mai dyna oedd y peth iawn i’w wneud.
“Yna, yn amlwg, rydych chi'n gwybod beth sy'n digwydd pan fydd ychydig o ffwdan neu beth bynnag rydych chi am ei alw.
“Dw i’n meddwl nad oedd gan y dyfarnwr y gêm dan reolaeth, yn fy marn i. Dywedais i wrtho.
“Fe wnaeth effeithio ac roedd yn rhaid i’r ddau dîm ddelio ag ef. Dyna beth ydyw felly rydym yn cymryd pwynt ac yn symud ymlaen.”
Cadarnhaodd Uwchgynghrair Lloegr ar ôl y gêm bod pedwar cerdyn coch wedi eu dangos.