Menter gymunedol yn codi arian i greu canolfan treftadaeth ar gyfer Dyffryn Nantlle

Fferyllfa Penygroes

Mae menter gymunedol yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd yn codi arian i brynu un o hen adeiladau'r stryd fawr i greu canolfan treftadaeth.

Mae menter Yr Orsaf ym Mhenygroes eisoes wedi prynu sawl adeilad o bwys hanesyddol yn y pentref, gan gynnwys adeilad yr hen Siop Griffiths.

Y bwriad rŵan ydi prynu adeilad yr hen fferyllfa er mwyn ei datblygu'n ganolfan treftadaeth a chelf.

"Byddai'r ganolfan yn rhywle lle gall trigolion ac ymwelwyr ddathlu ein treftadaeth, trwy weithgareddau celf, gan weithio efo plant, pobl ifanc a’r gymuned i greu ein stori ar gyfer y dyfodol," meddai'r trefnwyr mewn datganiad ar wefan CrowdFunder.

Er mwyn prynu'r hen fferyllfa, mae Yr Orsaf yn dweud bod angen codi £20,000 ar gyfer cais grant gwerth £100,000. 

Mae'r fenter eisoes wedi llwyddo i godi £10,000 "trwy gysylltiadau Yr Orsaf", ond maen nhw bellach yn cynnal apêl i godi £10,000 arall.

Daw'r ymgyrch ddiweddaraf ddegawd ar ôl i'r fenter brynu eu hadeilad cyntaf, Siop Griffiths, yn dilyn ymgyrch 10 wythnos i godi £70,000.

Erbyn hyn mae'r fenter yn cyflogi 12 o bobl ac yn darparu gwasanaethau a gweithgareddau sy'n bywiogi'r ardal.

Nid Yr Orsaf yw'r unig fenter gymunedol sy'n trawsnewid a moderneiddio hen adeiladau yn ardal Dyffryn Nantlle, gyda menter Antur Nantlle hefyd yn darparu mynediad i wasanaethau a chyfleusterau cyhoeddus.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.