Y chwaraewr a sylwebydd snwcer John Virgo wedi marw yn 79 oed

John Virgo

Mae'r cyn chwaraewr a sylwebydd snwcer, John Virgo, wedi marw yn 79 oed.

Roedd Virgo wedi chwarae snwcer yn broffesiynol am 18 mlynedd, gan ennill Pencampwriaeth y DU yn 1979.

Yn dilyn ei ymddeoliad yn 1994, daeth yn sylwebydd snwcer gyda'r BBC.

Roedd yn adnabyddus hefyd am ei rôl yn cyd-gyflwyno'r rhaglen snwcer Big Break gyda'r digrifwr Jim Davidson yn y 1990au.

"Mae pawb yn World Snooker Tour yn drist iawn o glywed am farwolaeth y chwaraewr snwcer a’r darlledwr chwedlonol John Virgo, yn 79 oed," meddai datganiad gan y World Snooker Tour ddydd Mercher.

"Mae ein meddyliau gyda’i deulu a’i anwyliaid. Gorffwyswch mewn hedd, JV."

Llun: Sporting Pictures via Reuters

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.