Pryderon cyn-bennaeth Google y gall terfysgwyr ddefnyddio AI
Mae cyn-bennaeth Google yn ofni y gall terfysgwyr ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (AI) i “niweidio pobl ddiniwed”.
Dywedodd Eric Schmidt, cyn brif weithredwr Google, bod y pryderon sydd ganddo am AI yn wahanol i’r rhai sy’n cael eu trafod fel arfer - “rydw i’n sôn am risg eithafol” meddai.
Dywedodd y gall “Gogledd Korea, Iran, neu hyd yn oed Rwsia” feithrin a chamddefnyddio’r dechnoleg i greu arfau biolegol.
Galwodd am oruchwyliaeth y llywodraeth ar gwmnïau technoleg preifat sy'n datblygu modelau AI, ond rhybuddiodd y gallai gor-reoleiddio atal arloesedd yn y maes.
Cytunodd Schmidt efo rheolaethau allforio yr Unol Daleithiau ar ficrochipiau pwerus sy’n gyfrifol am reoli’r systemau AI mwyaf datblygedig.
Cyn iddo adael ei swydd, fe wnaeth cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Joe Biden, gyfyngu allforio microchipiau i bob gwlad ond 18 i arafu cynnydd gwrthwynebwyr ar ymchwil AI.
“Meddyliwch am Ogledd Corea, neu Iran, neu hyd yn oed Rwsia, sydd â rhyw uchelgais drwg” meddai Eric Schmidt, “gallent gamddefnyddio’r dechnoleg a gwneud niwed gwirioneddol”.
Ychwanegodd y gall systemau AI gael eu defnyddio i greu arfau a all arwain at “ymosodiad biolegol drwg gan rywun drwg."
“Rwyf yn ofni am y senario ‘Osama Bin Laden’” meddai, “lle mae person sy’n wirioneddol ddrwg yn cymryd y dechnoleg ac yn ei ddefnyddio i niweidio pobl ddiniwed”.
Dywedodd Eric Schmidt bod angen cael cydbwysedd rhwng cael goruchwyliaeth y llywodraeth dros ddatblygiadau AI, a sicrhau nad oes gor-reoleiddio’r sector.
“Y gwir amdani yw bod y AI a’r dyfodol yn mynd i gael eu hadeiladu i raddau helaeth gan gwmnïau preifat," meddai.
“Mae'n bwysig iawn bod llywodraethau'n deall beth rydyn ni'n ei wneud ac yn cadw llygad arnon ni.”
'Gofid mawr'
Roedd Eric Schmidt yn siarad o Baris, lle gorffennodd Uwchgynhadledd Gweithredu AI gyda'r Unol Daleithiau a'r DU yn gwrthod llofnodi'r cytundeb.
Dywedodd Is-lywydd yr Unol Daleithiau JD Vance y byddai rheoleiddio’r sector yn "lladd diwydiant sy’n trawsnewid, fel y mae'n cychwyn".
Dywedodd Eric Schmidt nad oedd y cwmnïau technoleg mawr "yn deall 15 mlynedd yn ôl" y potensial a oedd gan AI, ond maen nhw nawr.
Roedd Schmidt yn bennaeth Google pan brynodd y cwmni Android, y cwmni sydd bellach yn gwneud y system weithredu ffôn symudol fwyaf yn y byd.
Mae o bellach yn cefnogi mentrau i gadw ffonau allan o ysgolion.
"Rwy'n un o'r bobl nad oedd yn deall i gychwyn, ond nid yw'r byd yn gweithio'r ffordd yr ydym ni, pobl sy'n ymwneud â thechnoleg, yn meddwl ei fod o" meddai.
"Mae'r sefyllfa gyda phlant yn peri gofid mawr i mi.
"Rwy'n credu y gall ffonau clyfar i blant fod yn ddiogel," meddai, "dim ond angen eu cymedroli sydd... gallwn i gyd gytuno y dylai plant gael eu hamddiffyn rhag drwg y byd ar-lein."
Mae ymgyrchwyr dros gyfyngu defnydd plant o ffonau symudol yn dadlau bod ffonau’n gaethiwus ac wedi “denu plant i ffwrdd o’r gweithgareddau sy’n anhepgor i ddatblygiad iach”.
Pasiodd senedd Awstralia gyfraith i wahardd defnydd cyfryngau cymdeithasol ar gyfer plant dan 16 oed yn 2024.
Dywedodd y Prif Weinidog, Anthony Albanese ei bod yn bwysig amddiffyn plant rhag ei “niwed”.
Llun: Wochit