Newyddion S4C

Wcráin: Ewrop yn ymateb wrth i Trump ddweud y bydd yn dod i gytundeb â Putin

Donald Trump ar ddiwrnod ei urddo

Mae rhai o wledydd Ewrop gan gynnwys y DU wedi dweud y byddan nhw’n barod i ddarparu “mwy” o gefnogaeth i Wcráin yn erbyn Rwsia.

Daw wedi i Donald Trump ddweud ei fod yn bwriadu cwrdd â Vladimir Putin yn Saudi Arabia “yn fuan” meddai er mwyn trafod dod a rhyfel Wcráin i ben.

Ddydd Mercher dywedodd Ysgrifennydd Amddiffyn newydd UDA Pete Hegseth nad oedd gobaith dychwelyd at ffiniau blaenorol Wcráin ac na fyddai’r wlad yn cael ymuno â NATO.

Wrth ymateb mewn datganiad ddydd Iau dywedodd saith o wledydd Ewropeaidd, gan gynnwys y DU, Ffrainc a’r Almaen, eu bod nhw’n barod i roi mwy o gefnogaeth i Wcráin.

“Rydym yn barod i ddarparu mwy o gefnogaeth i Wcráin,” medden nhw.

“Ymrwymwn i'w hannibyniaeth, ei sofraniaeth a'i chywirdeb tiriogaethol yn wyneb rhyfel ymosodol Rwsia.

“Rydyn ni'n rhannu'r nod o barhau i gefnogi'r Wcráin nes cyrraedd heddwch cyfiawn, cynhwysfawr a pharhaol,” medden nhw.

“Heddwch sy'n gwarantu budd Wcráin a'n budd ni.

“Rydym yn edrych ymlaen at drafod y ffordd ymlaen gyda'n cynghreiriaid Americanaidd. 

“Ein nod cyffredin yw rhoi Wcráin mewn sefyllfa o gryfder. Rhaid i Wcráin ac Ewrop fod yn rhan o unrhyw drafodaethau.”

'Dod yn ôl'

Ddydd Mercher dywedodd Donald Trump ei fod ef a Vladimir Putin yn cytuno y dylai trafodaethau i ddod â’r rhyfel yn Wcráin i ben ddechrau “ar unwaith”.

Cytunodd Trump ei bod yn annhebygol y byddai’r Wcráin yn dychwelyd i’w ffiniau cyn 2014 ond dywedodd “y byddai rhywfaint o’r tir hwnnw’n dod yn ôl”.

Mae ymladd ffyrnig wedi bod rhwng Wcráin a Rwsia ers bron i dair blynedd bellach pan lasodd Rwsia ymosodiad ar raddfa fawr yn 2022.

Ond mae brwydro wedi digwydd yno ers mis Mawrth 2014 pan gipiodd Rwsia benrhyn Môr Du y Crimea o’r Wcráin.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.