Pwysau'n cynyddu ar Warren Gatland wedi'r golled yn Rhufain
Pwysau'n cynyddu ar Warren Gatland wedi'r golled yn Rhufain
Dyn o dan bwysau.
Herio Warren Gatland i ddod a llwyddiant yn y 6 Gwlad wnaeth Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Abi Tierney yn ei hadroddiad fis Rhagfyr.
Mae ei ddyfodol yn dibynnu ar berfformiadau a chanlyniadau meddai hi ar y pryd.
A ddylai barhau yn ei swydd?
Yn ol cyn-gapten fu'n siarad a S4C wedi'r golled ddiweddaraf mae problemau rygbi Cymru yn ddyfnach na hynny.
"Beth yw'r strategaeth? Beth yw'r plan am y gem yng Nghymru?
"O'r gem gymuned, i'r gem ranbarthol i'r gem broffesiynol.
"Unless bod ni'n sortio hynna mas beth yw'r pwynt cael gwared ar Gatland a'r hyfforddwyr?"
Galw ar Gatland i fynd wnaeth cyn-gapten arall.
"Ar ol yr ail hanner, mae'n rhaid i Gatland fynd.
"Beth bynnag mae'n trial neud, dyw e ddim yn gweithio."
Mae'n cydnabod bod angen i eraill gymryd peth cyfrifoldeb hefyd.
"Yn amlwg nid yn unig mae'r problemau yn fanna.
"Maen nhw'n fwy dwys a dwfn na jyst Warren Gatland.
"Mae'r Cadeirydd, Prif Weithredwr mewn swydd ers dros flwyddyn a dydyn nhw'm yn gallu gwneud penderfyniad am ei ddyfodol.
"Maen nhw isie edrych yn ol a gwneud reports drwy'r amser.
"Maen nhw fel bod nhw'n osgoi penderfynu ar y rhanbarthau.
"Dydyn nhw'm eisiau gwneud penderfyniadau caled fydd yn anodd a bydd pobl yn cwympo mas amdanyn nhw ond mae'n rhaid cael cynllun clir ac amlwg i bawb beth bynnag yw'r penderfyniad.
"Mae fel bod nhw ofn 'neud penderfyniad."
Heno, mae cyn-chwaraewr rhyngwladol arall wedi galw am newidiadau.
Yn ol Andrew Coombs, mae angen gweithredu powld arweinyddiaeth gref a chynllun clir, ac ymddiswyddiadau.
Wrth edrych i'r dyfodol, un awgrym yw cryfhau llwybrau datblygu i chwaraewyr ifanc.
"Rygbi mewn ysgolion, dyna ble mae cynulleidfa fwyaf o fechgyn a merched i chwarae rygbi.
"Does dim cyfleoedd ar gael i ni yn yr ysgol na chymorth ariannol, dim clybiau o ran safbwynt y merched hefyd i roi cyfleoedd i nhw.
"Does dim colegau na system academies llwyddiannus yng Nghymru.
"Yn Llangynwyd ni'n colli lot o ddisgyblion i Loegr ble maen nhw'n mynd i golegau yn lle aros yng Nghymru achos does dim cyfleoedd rygbi o'r safon uchaf."
Fel rhan o strategaeth Cymru'n Un mae'r Undeb eisiau gweld y gem gymunedol yn ffynnu a chyflymu systemau datblygu i rygbi merched.
Mae'n broblem ddyrys, 4 blynedd nol roedd Cymru'n codi'r tlws ac yn dathlu Coron Driphlyg.
Mae'r dirywiad wedi bod yn syfrdanol.