Newyddion S4C

Treth etifeddu: Mil o ffermwyr yn protestio yn Llundain

12/02/2025

Treth etifeddu: Mil o ffermwyr yn protestio yn Llundain

Diwrnod arall a ffermwyr yn cyfnewid y caeau am strydoedd Llundain.

Wrth i wleidyddion drafod effaith y dreth etifeddiant mynnu mae nifer y gall fod yn ddiwedd i'r ffordd o fyw sydd mor ganolog i gefn gwlad Cymru.

"Mae'n bersonol ac yn bellach na phres.

"Mae'n cael effaith ar lle mae pobl yn gweithio a byw bob dydd teuluoedd a'u hanes nhw fel teulu sydd ar y ffermydd ers blynydde.

"Mae 'na reswm pam mae 'na swn uffernol am hyn.

"Dydy o'm yn fater o dalu bil, mae'n bellach na hynny."

Mae hwn yn adeilad newydd sbon net zero sy'n rhad ei redeg i'r coleg.

Ymhell o'r brifddinas, edrych tua'r dyfodol mae Coleg Llysfasi Llanfair Dyffryn Clwyd sy'n magu cenhedlaeth nesaf yr amaethwyr a'r ganolfan newydd yma yn rhoi blas a chyfle newydd ar hen ddiwydiant.

"'Dan ni'n gobeithio bod ein pobl ifanc ni yn mynd allan efo syniadau am ba dechnoleg sy'n gallu gweithio i gynhyrchu bwyd i wella cefn gwlad a gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt.

"Ein lle ni yw darparu cyfle i fyfyrwyr fod yn arloesol a rhwydweithio ag eraill."

A gymaint o sylw i'r diwydiant, ydy hynna'n cael effaith ar ddisgyblion?

"Yn sicr mae o."

"'Dan ni'n lwcus fel diwydiant a'n pobl ifanc a ffermwyr presennol.

"'Dan ni'n ddiwydiant gwydn iawn."

Mae'n fwy na swydd, a'r coleg ar ei newydd wedd yn gobeithio rhoi'r dechre gorau i bawb sy'n mynd drwy'r sector.

Mae'r ddadl wedi tanio ac yn troi yn bigog.

Mae'r undebau amaeth yn mynnu bydd newidiadau i'r dreth etifeddiant yn chwalu ffermydd a'r genhedlaeth nesaf yn sylwi.

"Ar y funud mae'n anodd iawn.

"Ni'n lwcus bod ffarm ni'n eithaf fach ond 'dan ni'n nabod lot efo ffermydd mwy na ni.

"Dw i eisiau mynd i brifysgol i ddal i wneud peirianneg.

"Dw i'm yn siwr beth yw'r dyfodol efo'r jobsys a pethe."

"Dw i'm yn meddwl mae'n deg ar y ffermwyr i basio'r fferm lawr i'r generation nesaf i gallu continue i wneud ffermio adre."

Geith o effaith arnoch chi fel teulu?

"'Chydig bach, ie, dw i'n meddwl.

"Jyst pasio lawr o dad fi i fi neu brawd fi."

Ydy'r llywodraeth yn deall pa mor anodd yw'r sector amaeth?

"Dim rili, na.

"Mae 'na lot sydd ddim efo syniad beth mae o fel yn enwedig yr oriau hir a'r gwaith caled."

Nol yn San Steffan gyda thros 150,000 wedi llofnodi deiseb yn gwrthwynebu'r newidiadau, dyma gyfle i leisio barn.

Dweud mae'r Llywodraeth bod y polisi yn deg ac yn gytbwys ac yn effeithio ar tua 500 ystad bob blwyddyn.

Wrth i'r ddadl barhau ar draws y wlad, mynnu mae'r coleg yma bod y dyfodol yn ddisglair a gyda thechnoleg newydd mae gwell i ddod.

Mae'r darlun mawr yn ansicr, a'r bwlch rhwng amaeth a'r llywodraeth i weld yn tyfu o hyd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.