Myfyrwyr nyrsio yn protestio'n erbyn toriadau Prifysgol Caerdydd
Myfyrwyr nyrsio yn protestio'n erbyn toriadau Prifysgol Caerdydd
"What do we want?"
"Save our schools."
"When do we want it?"
"Now!"
Codi llais dros gwrs nyrsio Prifysgol Caerdydd.
"When patients' safety is under attack, what do we do?"
"Stand up, fight back!"
Ar safle Ysbyty Athrofaol Cymru prynhawn 'ma ddath 200 i wrthwynebu cynlluniau i ddod a'r cwrs nyrsio i ben.
"Mae shwt gymaint o gyfleoedd a chyfleusterau yma.
"'Na pam dw i wedi colli geiriau pam maen nhw moyn cael gwared ar y cwrs yma yng Nghaerdydd."
Dweud ma'r brifysgol bod rhaid arbed arian a'u bod nhw'n ymgynghori ar dorri 400 o swyddi a dod a rhai cyrsiau gan gynnwys nyrsio i ben.
"Mae'n bwysig i sefyll lan dros ein cwrs a'r lecturers yng Nghaerdydd.
"Dyw e ddim yn deg beth sy 'di digwydd iddyn nhw a dyw e ddim yn deg o ran yr effaith arnom ni fel myfyrwyr."
Mae'r brifysgol yn dweud eu bod nhw wedi ymrwymo i ddarparu cyrsiau nyrsio i rai sy'n dechrau astudio fis Medi.
"What do we want?"
"Save our schools."
"When do we want it?"
"Now!"
Wythnos yma, mae'r Ysgrifennydd Iechyd 'di dweud ei fod e'n hyderus, petai nyrsio yn dod i ben yng Nghaerdydd y gallai'r llefydd gael eu darparu mewn prifysgolion eraill.
Mae'r myfyrwyr yma am weld darpariaeth y brifddinas yn parhau.
"Mae'r ysbyty mwyaf yng Nghymru yng Nghaerdydd sy'n golygu bod y ddarpariaeth yn wahanol a gwell nag ysbytai eraill.
"Mae'n fwy felly mae mwy o feysydd clinigol, arbenigol ar gael felly, mae'r profiadau i ni fel myfyrwyr yn wych."
"Dyw e ddim yn gwneud synnwyr o gwbl.
"Maen nhw'n gweud bod angen mwy o nyrsys a nyrsys Cymraeg a wedyn, maen nhw'n dewis torri'r ysgol nyrsio yng Nghaerdydd.
"Dyma'r drydedd ysgol orau ym Mhrydain.
"Gobeithio bydd y neges a'r cefnogaeth heddiw yn cael Prifysgol Caerdydd i wrando."
Dywed y Coleg Nyrsio Brenhinol bod 2,000 o swyddi nyrsio gwag yma.
Mae Llywodraeth Cymru wedi recriwtio tua 300 o nyrsys o Kerala, India dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae eraill am iddynt ganolbwyntio ar roi pwysau ar Brifysgol Caerdydd i beidio a thorri eu darpariaeth nhw.
"Recruiting nurses from India is not a long-term strategy to address workforce problems within the NHS in Wales.
"A lot of those nurses will probably go to work in other countries but if you invest in the workforce in Wales, we'll see the benefits.
"That money is better spent on supporting our own nurses in Wales."
Dywedodd y Llywodraeth eu bod nhw'n recriwtio nyrsys dramor yn ogystal a buddsoddi mewn hyfforddiant yng Nghymru.
Ymgynghori ar eu cynlluniau mae Prifysgol Caerdydd a'r myfyrwyr yn gobeithio bydd eu protestiadau'n arwain at dro pedol.