Newyddion S4C

Dyn oedd wedi ei gyhuddo o herwgipio plentyn wedi marw yn ei gell

HMP Berwyn

Clywodd cwest fod dyn 65 oed o Ynys Mon wedi ei ddarganfod yn farw yn ei gell yng Ngharchar Berwyn gyda bag plastig dros ei ben.

Roedd Robert Frith o Gaergybi yn un o saith o bobl oedd yn wynebu cyhuddiad  yn ymwneud a cheisio herwgipio plentyn dan 10 oed. Roedden nhw'n honni fod y plentyn mewn perygl o ddioddef camdriniaeth Satanaidd.

Yn ddiweddarach, cafodd y chwe person arall eu carcharu.

Clywodd cwest  yn Rhuthun ddydd Iau fod Mr Frith wedi ei ddarganfod yn farw yn ei gell yng Ngharchar Berwyn am 8.30 ar fore Rhagfyr 14 2020. Roedd wedi bod yn farw ers rhwng tair a chwech awr. 

Dywedodd y patholegydd Dr Brian Rogers wrth y gwrandawiad ei fod wedi mygu i farwolaeth, a nad oedd unrhyw arwyddion o drais.

Pan gyrhaeddodd y carchar bump wythnos ynghynt, dywedodd swyddogion fod Mr Frith, oedd yn gyn-nyrs seiciatryddol,  wedi dweud wrthyn nhw nad oedd ganddo unrhyw fwriad o niweidio'i hun.

Dywedodd cyn-swyddog yn y carchar, Kathryn Plummidge: "Mi dywedodd wrthaf i ei fod yn sioc fawr iddo bod yng ngharchar."

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.