Newyddion S4C

O Lanrwst i gopa Kilimanjaro: Wythnos 'anhygoel' i fam o Sir Conwy

Delia Roberts

Mae mynyddwraig o Lanrwst wedi dringo i gopa mynydd uchaf Affrica er cof am ferch 13 oed a fu farw dwy flynedd yn ôl.

Fe lwyddodd y fam i ddau Delia Roberts, 48 oed, i gwblhau’r ddringfa 5,895 medr i gopa mynydd Kilimanjaro, yn Tanzania, ddydd Mercher.

Y rheswm am yr her eithafol oedd codi arian i elusen 2wish, er cof am Mabli Dafydd, merch o Landdoged a fu farw’n sydyn yn 2022 yn 13 oed.

Wrth siarad gyda Newyddion S4C ar droed y mynydd, dywedodd Delia, sydd yn ffrindiau gyda theulu Mabli, ei bod wedi cyrraedd y copa ar ôl saith diwrnod o ddringo a chwe noson o wersylla mewn pabell.

Image
Mabli Dafydd
Bu farw Mabli Dafydd o Landdoged yn sydyn yn 13 oed

“Mae o di bod yn brofiad ffantastic, dwi di mwynhau bob eiliad,” meddai.

“Obfiysli da ni di cysgu mewn tent am chwe noson a heb gael wash, so di huna ddim di bod yn hawdd!

“Ond dal yn brofiad amazing – dwi di lyfio fo.”

Roedd Delia mewn grŵp o 14 o bobl oedd yn anelu i gyrraedd y copa.

Ond fe gafodd y fynyddwraig brofiadol ganiatâd i ddringo i gopa’r mynydd ar ben ei hun, gyda chymorth tywyswyr, cyn gweddill y grŵp.

Fe wnaeth hi adael ei phabell am 01.30 fore Mercher er mwyn cyrraedd Copa Uhuru am 06.30 i weld yr haul yn gwawrio. Ar bob cam o'r her eithafol, roedd yn gwisgo crys-t yn dangos llun o Mabli.

Image
Kilimanjaro
Yr olygfa o Gopa Uhuru

“Mi oedd yr awyr yn las ac yn binc pan oedd yr haul yn codi, mi oedd o’n stunning," ychwanegodd Delia.

“Da ni di bod yn campio yn uchel trw’r wsos a di’r altitude ddim di effeithio fi.

“Ond mi nath o ddechra effeithio fi ‘chydig bach just cyn cyrraedd y copa, a dwi’n meddwl nath huna neud i fi deimlo’n reit chwil, oedd o’n rhyfedd.

“Nesh i ddechrau teimlo’n reit emosiynol wedyn hefyd yn meddwl am Mabli druan."

Hyd yma, mae apêl gan Delia ar wefan JustGiving wedi codi bron i £4,000 ar gyfer yr elusen 2wish, sydd yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd a ffrindiau sydd wedi colli plentyn neu berson ifanc.

“Mae 2wish yn agos i fy nghalon i," meddai.

“Maen nhw’n rhoi cymorth profedigaeth i deuluoedd a ffrindiau ac maen nhw di bod yn andros o dda. 

"Maen nhw di bod yn help i lot o ffrindiau Mabli a’i theulu. A dyna pam dwi'n neud hyn.

"Mae o wedi bod yn brofiad na'i byth anghofio.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.