Drakeford yn gwrthod eithrio plant o'r "treth ymwelwyr"
Mae ysgrifennydd cyllid y Llywodraeth wedi gwrthod galwadau i eithrio plant a phobl ifanc o'r cynlluniau i gyflwyno "treth ymwelwyr".
Dywedodd Mark Drakeford y byddai eithrio pawb dan 16 oed yn cael "effaith sylweddol" ar yr incwm o'r dreth - i lawr o £33 miliwn i tua £21 miliwn.
Bwriad y llywodraeth yw cyflwyno treth o £1.25 y noson ar bawb sydd yn aros yng Nghymru o 2027 ymlaen.
Wrth gael ei holi gan bwyllgor cyllid y Senedd, dywedodd Mr Drakeford y byddai eithrio plant "yn erydu'r gobeithion y bydd y dreth o unrhyw ddefnydd."
Ychwanegodd: "Os yw'r pwyllgor yn dadlau dros eithrio plant, rydych chi'n dadlau am godi treth uwch ar y bobl sy'n weddill - allwch chi ddim cael y ddau beth."
Gwrthododd Mr Drakeford honiadau gan y diwydiant ymwelwyr y byddai'r dreth yn cael effaith ddifrifol ar yr economi.
Mae un adroddiad gan athro ym Mhrifysgol Caerdydd yn awgrymu y gallai'r dreth olygu colli rhwng 250 a 730 o swyddi, a cholled o rhwng £16 miliwn a £47 miliwn i economi Cymru.
Dywedodd Mr Drakeford fod yr adroddiad yn cyflwyno "rhychwant o bosibiliadau", yn hytrach na gallu rhagweld beth fyddai'n digwydd.
"Hyd yn oed os byddai'r effaith yn agos i'r amcangyfri gwaethaf, rydych chi'n son am ychydig gannoedd o swyddi mewn diwydiant sy'n cyflogi dros filiwn o bobl," meddai. "Dydw i ddim yn meddwl fod hwn yn ddiwydiant fydd yn cael trafferth i ymgodymu â'r dreth."