Newyddion S4C

Pêl-droed: Chwe thîm i godi i Uwch Gynghrair Cymru y tymor nesaf

12/02/2025
Tlws Cymru Premier JD

Fe fydd chwe thîm yn ennill dyrchafiad i’r Cymru Premier JD y tymor nesaf wrth i’r uwch gynghrair ehangu i 16 tîm.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cadarnhau y bydd cyfanswm o chwe chlwb yn ennill dyrchafiad o gynghreiriau’r ail haen ar ddiwedd y tymor 2025/26, gyda thri chlwb yn codi o’r Cymru North a thri o’r Cymru South.

Bydd y clybiau sydd yn gorffen yn y tri uchaf yn naill gynghrair yn codi i’r haen uchaf.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn dweud y byddai hyn yn amodol ar glybiau yn llwyddo i gyrraedd safonau’r trwyddedau Haen 1, sydd yn angenrheidiol ar gyfer clybiau’r Cymru Premier.

Mae cronfa tyfiant y dyfodol wedi ei lansio er mwyn galluogi rhagor o glybiau’r ail haen i ennill trwyddedau Haen 1, yn ôl y Gymdeithas.

Fe fydd y ddau glwb sydd yn gorffen yn yr 11eg a 12fed safle yn disgyn o’r Cymru Premier ar ddiwedd y tymor.

Bydd hynny yn gadael 16 tîm yn cystadlu yn yr uwch gynghrair ar ddechrau’r tymor 2026/27.

Daw hyn wedi i’r Gymdeithas gyhoeddi fformat newydd ar gyfer y gystadleuaeth fis Medi y llynedd. 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.