Newyddion S4C

Pedwar yn rhagor o glybiau yn y Cymru Premier JD o dymor 2026/27 ymlaen

27/09/2024
Tlws Cymru Premier JD

Bydd Uwch Gynghrair Cymru Premier JD yn cynyddu o’i fformat 12 tîm presennol i gystadleuaeth 16 tîm o dymor 2026/27 ymlaen.

Gobaith Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth ehangu'r gystadleuaeth yw cynyddu maint y torfeydd, cynnal diddordeb y cefnogwyr drwy gydol y tymor, gwella'r safon a chynnig gwell cyfleoedd refeniw i glybiau.

Bydd pob clwb yn chwarae ei gilydd ddwywaith, unwaith gartref ac unwaith i ffwrdd. 

Ar ôl dydd gemau rhif 30, bydd y gynghrair yn rhannu'n dri grŵp ar wahân.

Bydd y chwech uchaf yn y tabl yn chwarae ei gilydd unwaith yn rhagor, gyda’r clwb ar frig y tabl ar ôl dydd gemau rhif 35 yn bencampwyr. 

Bydd clybiau sydd yn ail i chweched yn gymwys ar gyfer gemau ail gyfle ichwarae yn Ewrop.

Bydd clybiau sy’n seithfed i 10fed yn chwarae ei gilydd unwaith eto, gyda’r clwb yn y seithfed safle ar ôl dydd gemau rhif 33 yn hawlio’r safle olaf yn y gemau ail gyfle Ewropeaidd ar ddiwedd y tymor.

Yn olaf, bydd clybiau sydd yn safle 11 i 16 hefyd yn chwarae ei gilydd unwaith eto. 

Ar ddiwedd dydd gemau rhif 35, bydd y clybiau yn y 15fed a'r 16eg safle yn cael eu diarddel yn awtomatig, tra bydd y clwb yn 14eg safle yn cystadlu yn y gemau ail gyfle.

Yma, byddant yn cwrdd ag enillydd gêm rhwng clwb yr ail safle yng nghynghrair JD Cymru Premier y Gogledd, a’r clwb yn yr ail safle yng nghynghrair Cymru Premier JD y  de am yr hawl i aros yn yr Uwch Gynghrair.

Dywedodd Jack Sharp, Pennaeth Cynghreiriau Domestig CBDC: "Rydyn ni'n falch iawn o fod yn gallu rhannu fformat newydd JD Cymru Premier ar gyfer tymor 2026/27 ymlaen.

"Roedd hi'n bwysig nodi strwythur a fyddai'n caniatáu i'n clybiau ffynnu, gan alluogi’r CBDC i weithio tuag at ganlyniadau strategaeth JD Cymru Premier a chael cynghrair uwch y gall y wlad fod yn falch ohoni.

"Rhedwyd proses ddadansoddol a seiliedig ar ddata i ddadansoddi’r strwythur cynghrair gorau’n drylwyr o safbwynt egwyddorion canllaw. Rydyn ni wedi adeiladu model lle mae cysylltiad yn ganolog i’n cynghrair wrth i ni anelu at greu JD Cymru Premier sy’n fwy cyffrous.

"Roedd hi’n wych gweld positifrwydd ein clybiau JD Cymru Premier wrth dderbyn y fformat newydd a’r cyffro a ddaeth o’r cyfarfod diweddar gyda pherchnogion y clybiau.”

Llun: CBDC

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.