Wynne Evans 'am fynd â'r BBC i dribiwnlys'
Mae disgwyl i’r canwr a chyflwynydd Wynne Evans fynd â’r BBC i dribiwnlys ar ôl iddo gael ei adael allan o daith fyw Strictly Come Dancing fis diwethaf, yn ôl adroddiadau.
Mae adroddiadau gan rhai papurau newydd yn dweud y bydd seren y cwmni Go Compare yn mynd â’r gorfforaeth i dribiwnlys am ei fod yn teimlo fod ei enw da wedi ei “ddinistrio”.
Mae The Sun yn dweud fod y canwr eisiau gwrthwynebu’r modd y cafodd ‘ei atal’ o’i ddyletswyddau.
Cafodd fideo ei ffilmio yn ystod lansiad y daith fyw ar 16 Ionawr. Yn y clip fideo mae modd clywed Wynne Evans yn gwneud sylw amhriodol o natur rywiol.
Mae’r cyflwynydd wedi bod yn cymryd seibiant o’i raglen ar Radio Wales ers diwedd mis diwethaf.
Y gred yw bod prif swyddogion cwmni yswiriant Go Compare hefyd wedi cynnal cyfarfodydd ‘argyfwng’ er mwyn trafod ei ddyfodol yno. Mae wedi bod yn serennu yn hysbysebion y cwmni ers 2009.
Dywedodd ffynhonnell wrth The Sun bod enw da Mr Evans wedi’i “ddinistrio” a'i fod eisiau cael iawndal.
“Mae wedi dweud y bydd yn mynd i dribiwnlys gyda’r BBC… mae Wynne yn teimlo ei fod wedi ei drin yn annheg.”
Mae'r ffynhonnell yn dweud bod Mr Evans o’r gred y cafodd ei ddiswyddo ar gam gan olygu ei fod hefyd wedi colli cyflog.
“Mae’n derbyn cyngor gan dîm cyfreithiol ac mae’n meddwl bod ganddo achos cryf,” meddai.
'Torcalonnus'
Wrth gyfeirio at sylwadau Mr Evans ddywedodd y ffynhonnell bod y cyflwynydd yn ymwybodol bod ei iaith yn “annerbyniol.”
“Mae ei galon wedi torri… mae’n drist nad oes neb wedi ei amddiffyn yn gyhoeddus.”
Ond ychwanegodd fod ei sylwadau yn “jôc” rhwng Mr Evans a’i gyd-weithwyr yno.
Mewn datganiad ar y pryd, dywedodd y BBC nad oedd unrhyw un wedi cwyno am sylwadau Mr Evans.
Ddiwrnod wedyn fe gafodd Mr Evans wybod na fyddai yn parhau yn rhan o daith fyw Strictly.
Mae'r BBC wedi dweud wrth Newyddion S4C nad oes ganddynt sylw i wneud.