Annog y cyhoedd i fapio lleoliad y cennin pedr
Mae pobl yn cael eu hannog i helpu i wneud map yn dangos lleoliad blodyn cenedlaethol Cymru, y cennin pedr.
Mae hyn mewn ymgais i helpu gwyddonwyr i’w hamddiffyn yn y dyfodol.
Gobaith Cymdeithas Arddwriaethol Frenhinol (RHS) yw y bydd garddwyr yn cofnodi yn lle mae’r cennin pedr yn blodeuo yn yr ardal a gwybodaeth sylfaenol fel y math, y lliw a’r uchder.
Bydd gwyddonwyr o’r gymdeithas yn defnyddio’r wybodaeth i ddeall y ffactorau amgylcheddol sydd yn effeithio ar y blodyn.
Maent hefyd yn gofyn i bobl gadw golwg ar gyfer tri math sydd mewn perygl. Y nod yw deall mwy amdanynt a cheisio gwneud yn siŵr eu bod yn goroesi.
Eleni mae’n 100 mlynedd ers i wyddonwyr RHS ddechrau ar eu hymdrechion i achub y cennin pedr. Fe gafodd y blodyn ei dyfu i drin nifer o afiechydon yn wreiddiol ond ers yr 1800au maent wedi bod yn cael eu meithrin i greu mathau gwahanol.
Dywedodd Dr Kalman Konyves, arbenigwr cennin pedr gyda’r RHS bod y cennin pedr yn arwydd bod “y gwanwyn wedi cyrraedd”.
“Ond mae yna fwy i’r blodyn melyn yma sydd i’w gweld ymhob man, gyda 31,000 o wahanol fathau ar gael mewn gwyrdd, pinc a choch.
“Bydd deall lle y gallen nhw gael eu darganfod yn ein helpu i warchod yr amrywiaeth yma yn y dyfodol.”