'Peri pryder': Heriau recriwtio yn effeithio ar ansawdd addysg
Mae problemau recriwtio mewn ysgolion ar gyfer pynciau fel yr iaith Gymraeg wedi effeithio ar ansawdd addysg plant Cymru, medd adroddiad.
Mae llai o fyfyrwyr yn hyfforddi i fod yn athrawon Cymraeg a rheiny’n wynebu’r “prinder mwyaf arwyddocaol,” meddai adroddiad blynyddol Estyn ar gyfer 2023-2024.
Yn ôl yr adroddiad mae llai ‘na 25 o fyfyrwyr wedi eu recriwtio i ddysgu Cymraeg ar draws pob canolfan ymarfer dysgu yn ystod y pedair blynedd ddiwethaf, sef llai na thraean o'r ffigyrau targed.
Mae hefyd “gostyngiad nodedig” wedi bod yn nifer y myfyrwyr sy’n hyfforddi i ddysgu pynciau eraill drwy gyfrwng y Gymraeg mewn ysgolion uwchradd.
Mae hynny yn “peri pryder penodol”, gydag ysgolion uwchradd yn wynebu’r problemau mwyaf dwys.
Er bod nifer y myfyrwyr sy’n hyfforddi i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi bod yn gostwng dros y deng mlynedd diwethaf, mae’r ffigyrau diweddaraf yn “eithriadol o isel" medd y ddogfen.
Mae problemau recriwtio ym mhynciau fel Cymraeg, mathemateg, gwyddoniaeth, technoleg a gwybodaeth, daearyddiaeth ac ieithoedd modern wedi effeithio ar ansawdd yr addysg mae disgyblion yn eu derbyn.
O achos bod prinder staff yn y pynciau yma yn aml mae'n rhaid i athrawon rhoi gwersi “y tu hwnt i’w arbenigedd.”
Heriau
Fe ychwanegodd yr adroddiad bod cyfnod y pandemig a newidiadau eang fel diwygio’r cwricwlwm wedi creu heriau i brif athrawon yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Mae llwyth gwaith wedi effeithio ar awydd athrawon i geisio am swyddi tebyg o bryd i’w gilydd.
Mae Estyn bellach wedi argymell bod angen creu mwy o ffyrdd i hyfforddi unigolyn i fod yn athro er mwyn denu mwy o bobl i’r swydd.
Maen nhw hefyd wedi rhybuddio bod prinder athrawon sydd medru dysgu drwy’r Gymraeg yn peri heriau i Lywodraeth Cymru yn eu nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 20250.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod yr adroddiad yn dangos bod yna "gryfderau arwyddocaol i'w dathlu ond hefyd bod yna heriau.
"Rydyn ni yn barod wedi dechrau mynd i'r afael ag ardaloedd lle mae angen gwelliannau a bydd hyn yn cael ei gefnogi gan gyllideb ychwanegol o £230.5m yn ystod y ddwy flynedd nesaf er mwyn helpu i wella canlyniadau addysg."
Ychwanegodd y llefarydd y byddan nhw yn ystyried yn fanwl ganfyddiadau'r adroddiad.