'Mi oedd Dafydd yno i'n tywys': Teyrngedau yn y Senedd i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
'Mi oedd Dafydd yno i'n tywys': Teyrngedau yn y Senedd i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas
Mae teyrngedau wedi eu cyflwyno yn y Senedd i'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas a fu farw yr wythnos diwethaf.
Daeth aelodau o bob plaid ynghyd i roi teyrngedau i gyn arweinydd Plaid Cymru a Llywydd cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol, ar y pryd.
O dan ofal y Llywydd presennol, cafodd munud o dawelwch ei chofnodi ar ddechrau'r sesiwn.
Wrth annerch aelodau'r Senedd, dywedodd Elin Jones: “Roedd yn ffrind agos i nifer yma, ac yn enigma i bawb."
Ychwanegodd fod y Senedd heddiw yn bodoli oherwydd cyfraniad Dafydd Elis-Thomas.
"Yn sicr ry'n ni i gyd sydd yma yn yr adeilad bendigedig hwn a'r siambr fendigedig hon, yma oherwydd gweledigaeth a dyfalbarhad Dafydd."
Arweiniodd Plaid Cymru rhwng 1984 ac 1991, gan gynrychioli etholaeth Dwyfor Meirionnydd rhwng 1999 a 2021 ym Mae Caerdydd.
Cynrychiolodd Meirionnydd a Meirionnydd Nant Conwy fel aelod seneddol yn San Steffan rhwng 1974 ac 1992, cyn ymuno â Thŷ'r Arglwyddi yn 1992.
Gadawodd Blaid Cymru yn 2016 gan aros fel aelod annibynnol yn y Senedd, a chael ei benodi'n weinidog diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth yng nghabinet Carwyn Jones a Mark Drakeford.
Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan yn y siambr brynhawn Mawrth: Oedd hi'n anodd iawn i beidio â dod ar draws Dafydd ym mywyd gwleidyddol Cymru.
"Mae taith ei fywyd yn debyg i gyfrol hanesyddol o Gymru fodern. Roedd stori Dafydd wedi'i blethu yn adeiladwaith ein cenedl.
"Fel yr aelod seneddol ieuengaf yn Nhŷ'r Cyffredin yn 1974, fe dorrodd dir newydd o'r cychwyn.
"Ond i'r rheiny ohonom oedd yn ei adnabod yn well roedd yn llawer mwy na rhestr hir o'r swyddi a gyflawnodd yn ystod ei yrfa. Roedd yn gymeriad rhyfeddol - cawr gwleidyddol gydag ochr drygionus."
'Cymru oedd yn bwysig i Dafydd'
Cyflwynodd Arweinydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth ei deyrnged bersonol i'w 'ffrind'.
"I mi, o fore oes mi oedd o yno - yn ffrind, yn ffrind i'r teulu, yn ddylanwad, yn ysbrydoliaeth mewn gymaint o wahanol ffyrdd. Ond i ni i gyd, o fore oes ein democratiaeth ni mi oedd Dafydd yno i'n tywys."
Ychwanegodd aelod Meirionnydd Nant Conwy yn y Senedd, Mabon ap Gwynfor: "Roedd yn wleidydd craff, roedd yn adnabod llwybrau cudd gwleidyddol y Deyrnas Gyfunol a Chymru er mwyn dylanwadu a chyflawni ei amcanion.
"Ond er gwaethaf nerth ei ddadleuon a'i allu areithio digyffelyb, sylwodd dros gyfnod o bron i ddau ddegawd yn San Steffan nad oedd y doniau amlwg yma am sicrhau'r llwyddiannau roedd o'n ei ddeisyfu dros ei genedl.
"Rhaid felly oedd canfod ffyrdd amgen i ddylanwadu a sicrhau y newid yr oedd o'n ei ddyheu ac fe ddefnyddiodd ei rwydweithiau er mwyn sichrau enillion dros Gymru a'i hiaith. Cymru oedd yn bwysig i Dafydd."
Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar: “Roedd yn ddyn galluog, ac yn ffraeth, doedd e byth yn ofni herio'r status quo.
“Roedd yn weriniaethwr balch, a safodd y tu allan i'r gyfundrefn unwaith, ond a ddaeth yn ffrind da i'r Brenin Charles yn ddiweddarach."
Bu farw'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas yr wythnos diwethaf yn 78 oed, wedi salwch byr.