Deiseb yn galw am i Gymru fod ar faner Jac yr Undeb
Mae deiseb wedi ei lansio yn gofyn i Gymru gael ei chynrychioli ar faner Jac yr Undeb.
Cafodd y ddeiseb ei chreu gan Dylan Sleeman.
Mae’n dweud bod angen ‘cydnabod rôl hanfodol Cymru o fewn y DU trwy ddiweddaru fflag Jac yr Undeb i gynnwys Cymru’.
Byddai newid hyn yn gam cadarnhaol meddai.
Mae’r ddeiseb yn dweud: “Ar hyn o bryd mae’r fflag yn cynnwys elfennau o Loegr, yr Alban ac Iwerddon ond mae hunaniaeth unigryw a threftadaeth Cymru wedi ei anghofio.
"Mae hynny er ei statws fel un o genhedloedd y DU. Rwy’n credu y byddai’r newid yma yn magu mwy o ymdeimlad o fod yn gynwysedig, yn adlewyrchu undod cenhedloedd y DU ac yn hybu’r teimlad o gynrychiolaeth gyfartal a balchder cenedlaethol.
"Rwy’n credu’n gryf y byddai'r newid yma yn un positif i bobl y Deyrnas Unedig.”
Cafodd y ddeiseb ei chreu ym mis Ionawr ac mae dros 800 wedi ei llofnodi hyd yn hyn.
Mae angen 10,000 o lofnodion i Lywodraeth San Steffan ymateb i ddeisebau.