Newyddion S4C

Cyngor Wrecsam i drafod gwrthdroi terfyn cyflymder 20mya

11/02/2025
S4C

Mae disgwyl i Gyngor Wrecsam gyfarfod ddydd Mawrth er mwyn trafod y posibilrwydd o newid terfynau cyflymder 20mya yn ôl i 30mya ar nifer o ffyrdd yn yr ardal. 

Mi fydd yr awdurdod yn ystyried adroddiad ymgynghoriad cyhoeddus sydd yn dweud bod nifer o drigolion eisiau gwrthdroi terfynau cyflymder ar 52 ffordd yn lleol. 

Erbyn hyn mae nifer o gynghorau ledled Cymru yn ystyried newidiadau tebyg. Daw hyn ar ôl i bron i 500,000 o bobl lofnodi deiseb yn galw am wrthdroi’r cyfyngiadau. 

Cafodd y terfyn cyflymder ei gyflwyno ym mis Medi 2023 gan Lywodraeth Cymru gan effeithio ar y rhan fwyaf o ffyrdd mewn ardaloedd preswyl.

Dywedodd y llywodraeth ar y pryd mai prif nod y polisi oedd diogelu pobl gan leihau'r nifer o bobl sydd yn cael eu hanafu ar y ffyrdd. 

Ym mis Ebrill 2024, fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai’n adolygu’r cynllun. 

Cafodd trigolion Wrecsam eu hannog i gysylltu â’r cyngor er mwyn mynegi eu barn fel rhan o ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 13 Rhagfyr 2024 a 31 Ionawr 2025. 

Roedd y mwyafrif o bobl – dros 93% – yn dweud eu bod yn cefnogi’r cynnig i ail-osod terfyn cyflymder 30mya ar ffyrdd 20mya. 

Roedd 27 o bobl wedi dweud nad oeddent am weld terfynau cyflymder yn cael eu gwrthdroi. 

Ond o’r 440 o bobl a gysylltodd roedd “roedd nifer sylweddol o ymatebion yn cefnogi bob ffordd yn dychwelyd i 30mya,” meddai’r cyngor. 

Os bydd y cynllun i newid terfynau cyflymder yn ôl yn cael ei gymeradwyo mae’r cyngor yn rhagweld y bydd y gwaith yn cael ei gwblhau erbyn mis Mai 2025.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.