Argymell codi cyflogau Aelodau Seneddol i £94,000
Gallai cyflogau Aelod Seneddol San Steffan godi 2.8%, sy'n golygu y gallai pob aelod ennill bron i £94,000 y flwyddyn.
Mae awdurdod annibynnol safonau'r Senedd - Ipsa wedi argymell y cynnydd o 2.8% ar gyfer mis Ebrill, wedi cyfnod ymgynghori.
Petai'n cael ei gymeradwyo, byddai cyflog blynyddol Aelod Seneddol yn codi o £91,346 i £93,904.
Ar ddechrau'r Senedd ddiwethaf yn 2019, £79,468 oedd eu cyflog.
Mae'r argymhelliad fymryn yn uwch na'r raddfa chwyddiant sydd ar 2.5%.
Mae Banc Lloegr wedi darogan y bydd chwyddiant yn codi yn ddiweddarach eleni.
Nid Aelodau Seneddol sy'n dewis eu cyflogau, ond yn hytrach yr arolygydd Ipsa sydd wedi bod yn gwneud hynny ers i'r corff gael ei sefydlu yn 2011.
Yn ôl cadeirydd Ipsa, Richard Lloyd, mae'r sefydliad yn ceisio gwneud "penderfyniadau teg, ar gyfer Aelodau Seneddol a'r cyhoedd."
Ychwanegodd: “Mae ein hargymhelliad ar gyfer 2025-26 yn adlewyrchu profiadau'r cyhoedd yn ehangach ym myd gwaith ac yn cydnabod rôl allweddol Aelodau Seneddol yn yr hinsawdd economaidd bresennol.”