Newyddion S4C

'Poenus': Elusen yn chwilio am gartrefi newydd i anifeiliaid wrth gau am y tro olaf

Peter y gafr

Mae elusen yn Sir Conwy wedi gwneud cais am gartrefi newydd i ddegau o anifeiliaid ar ôl cyhoeddi ei bod yn bwriadu cau ei noddfa.

Dywedodd Noddfa Anifeiliaid Idlewild, sydd wedi'i lleoli ar Fferm Pen Bryn Twrw yn Llanbedr-y-Cennin, ei bod yn chwilio am gartref i 82 o anifeiliaid.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r elusen wedi bod yn ceisio codi £600,000 er mwyn parhau i weithredu, gyda'r les yn dod i ben ym mis Mehefin 2026.

Ond ar ôl degawd o helpu anifeiliaid yn Sir Conwy, dywedodd yr elusen ddydd Llun nad ydy hi "mewn sefyllfa ariannol" i barhau gyda'i gwaith.

Mae'r elusen bellach yn chwilio am gartref i'w hanifeiliaid, gan gynnwys cathod, mulod, moch, defaid, geifr, adar, ceiliogod, gwyddau a thyrcwn.

'Penderfyniad poenus'

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd Noddfa Anifeiliaid Idlewild ei bod wedi gorfod gwneud "penderfyniad poenus".

"Mae hyn yn anhygoel o anodd, ond gyda thristwch mawr yr ydym yn eich hysbysu y bydd yn rhaid i Noddfa Anifeiliaid Idlewild ddechrau cau ei safle," meddai.

"Fel y gwyddoch eisoes, cyflwynodd ein landlord hysbysiad i ni ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau cartref newydd i'r noddfa.

"Er gwaethaf eich rhoddion hael a’ch cefnogaeth, nid ydym mewn sefyllfa ariannol i ymrwymo i brydles, neu bryniant ar safle arall, cyn i’n tenantiaeth ddod i ben.

"Mae wedi bod yn benderfyniad poenus ac anodd i’w wneud ond, fel bob amser, rydym yn canolbwyntio ar les ein hanifeiliaid gwerthfawr."

Image
Noddfa anifeiliaid yn Sir Conwy
Mae'r noddfa wedi bod yn achub anifeiliaid yn Sir Conwy ers 2015

Ychwanegodd y noddfa ei bod yn gweithio'n galed i sichrau "cartref diogel" i'w hanifeiliaid.

"Mae ein holl ymdrechion ar sicrhau bod ein hanifeiliaid yn cael eu hailgartrefu ac yn parhau i dderbyn y cariad a'r gofal y maent yn eu haeddu," meddai.

"Byddwn yn dod o hyd i gartrefi diogel, cariadus i bob un ohonynt ac ni fyddwn yn cau nes ein bod wedi cyflawni hyn.

"Byddwn hefyd yn sicrhau bod ein gwirfoddolwyr yn cael y gofal a’r cymorth y maent yn eu haeddu."

Bydd yr elusen yn parhau i frwydro dros les anifeiliaid, meddai, gan geisio dod o hyd i ffordd arall o wneud y gwaith "allweddol" yma meddai llefarydd.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.