‘Amser Gatland ar ben,’ medd Syr Clive Woodward
Mae cyn-hyfforddwr Lloegr, Syr Clive Woodward, wedi dweud bod dyddiau Warren Gatland fel hyfforddwr rygbi Cymru “ar ben”.
Mae Cymru ar waelod tabl y Chwe Gwlad ar ôl colli eu dwy gêm gyntaf, yn erbyn Ffrainc a’r Eidal.
Y golled 22-15 yn Rhufain ddydd Sadwrn oedd y 14fed o’r bron i dîm Warren Gatland, wrth i Gymru syrthio i rif 12 ar restr detholion y byd.
Mewn colofn papur newydd, dywedodd Syr Clive Woodward bod y tîm wedi “plymio i ddyfnderoedd newydd yn Rhufain”.
“Daw amser fel hyfforddwr rhyngwladol pan fyddwch chi'n gwybod na allwch chi wneud mwy a bod eich amser ar ben,” meddai Syr Clive ar MailOnline.
“Mae Warren Gatland wedi cyrraedd y foment honno gyda Chymru, ac rwy’n meddwl yn fewnol y bydd yn cydnabod hynny.
“Mae teyrngarwch Gatland i Gymru yn amlwg yn y modd y mae’n cadw at y prosiect.
"Ond fe fydd yn gwybod nawr ei bod hi’n amser i wyneb ffres a llais newydd geisio symud y tîm ymlaen ar ddiwedd y Chwe Gwlad.”
Fe awgrymodd hefyd y gallai Gatland fod allan o’r swydd cyn diwedd y bencampwriaeth.
“Mae achos hefyd dros newid hyfforddwr nawr oherwydd roedd Cymru hyd yn oed yn waeth yn colli yn erbyn yr Eidal nag oedden nhw wrth dderbyn crasfa 43-0 gan Ffrainc.
“Mae'n amlwg nad oes gan Gatland y chwaraewyr o'r safon a gafodd yn ei gyfnod cyntaf. Ond hefyd nid yw'n ymddangos bod cyfeiriad clir o ran cynllun gêm ac arddull chwarae.
“Plymiodd Cymru i ddyfnderoedd newydd yn Rhufain, ac mae hynny'n peri trafferth mawr i Gatland.
“Y ffordd mae pethau'n mynd, efallai na fydd yn gweld diwedd y bencampwriaeth.”
Llun: Asiantaeth Huw Evans