Newyddion S4C

Cymru’n colli 22-15 i’r Eidal yn Rhufain

Cymru v Yr Eidal

Mae Cymru yn wynebu brwydr i osgoi'r llwy bren yn y Chwe Gwlad am yr ail flwyddyn yn olynol ar ôl colli yn erbyn yr Eidal yn Rhufain.

Cyn y gic gyntaf yr Eidalwyr oedd y ffefrynnau i ennill yr ornest ar ôl i Gymru gael cweir 43-0 yn y Stade de France yr wythnos ddiwethaf.

Unwaith eto doedd dim siâp ar ymosod Cymru ac roedd camgymeriadau cyson wrth drafod y bêl.

Bydd y crysau cochion yn wynebu taith oddi cartref i Iwerddon a’r Alban nesaf gan barhau i chwilio am fuddugoliaeth gyntaf mewn 14 o gemau.

Daeth newyddion drwg i Gymru cyn y chwiban gyntaf gyda chadarnhad bod Liam Williams a Dafydd Jenkins allan o’r gêm gydag anaf a salwch, â Freddie Thomas a Blair Murray yn cymryd eu lle.

A Freddie Thomas oedd yn gyfrifol am bwyntiau cyntaf yr Eidal ar ôl camsefyll a chaniatáu i Tommaso Allan sgorio cic gosb. 3-0 i’r Eidal.

Cyn hynny roedd Cymru wedi dechrau'r cryfaf o’r ddau dîm a bu bron iddyn nhw sgorio wedi dwy funud, ond nid oedd Josh Adams yn gallu cyrraedd cic letraws Tomos Williams.

Llwyddodd Ben Thomas i daro nôl ar ôl i’r dyfarnwr gosbi sgrym yr Eidal gan sicrhau na fyddai Cymru yn gadael yn waglaw fel wnaethon nhw yn erbyn Ffrainc yr wythnos flaenorol.

Doedd dim problemau gyda sgrym yr Eidal wrth iddyn nhw fynd yn ôl ar y blaen pedair munud yn ddiweddarach.

Llwyddodd Paolo Garbisi i dwyllo amddiffyn Cymru ac roedd ei gic berffaith ar hyd y llawr wedi ei mesur yn gywir i Ange Capuozzo sgorio yn y gornel.

Roedd Cymru yn colli'r bel a’u disgyblaeth yn y glaw gan roi cyfle i Tommaso Allan eu cosbi gyda dwy gic gosb arall.

Ychwanegodd Allan chwe phwynt i’r tîm cartref trwy gicio dwy gic gosb dros y pyst mewn llai na phum munud.

Pedair munud cyn yr egwyl fe aeth Cymru’n agos i sgorio eu cais gyntaf yn y gêm a’r bencampwriaeth.

Roedd cic ar y llawr gan Tomos Williams wedi cyrraedd Josh Adams ond cafodd ei daclo’n wych gan Ange Capuozzo.

Er gwaethaf holl ymdrechion dynion Warren Gatland fe wnaethon nhw i mewn i’r ystafelloedd newid ar hanner amser 16-3 ar ei hol hi.

Yr ail hanner

Dechreuodd yr ail hanner yn ddigon tebyg i’r cynta’ wrth i Nicky Smith fwrw’r bel ymlaen ac wrth i sgrym Cymru roi cyfle arall am gic gosb i’r Eidal.

Ond methodd Tomasso Allan y gic honno ac ymgais arall dwy funud yn ddiweddarach.

Cymerodd y mewnwr Martin Page-Relo y cyfrifoldeb am y ciciau ychydig funudau yn ddiweddarach gan fethu unwaith eto.

Roedd hynny’n golygu y gallai’r Eidal fod wedi mynd naw pwynt ymhellach ar y blaen.

Fe aeth pethau o ddrwg i waeth i Gymru wrth i Josh Adams gael ei yrru i’r gell gosb am dacl uchel ar Paolo Garbisi.

Daeth cic gosb yn fuan wedyn a doedd dim peryg i Tomasso Allan fethu y tro yma gan roi ei dîm 19-3 ar y blaen.

Roedd Cymru yn meddwl eu bod nhw wedi sgorio ar 68 munud ond roedd yn symudiad dwbl gan Freddie Thomas.

Ond fe lwyddodd Wainwright i groesi ar yr ochr dywyll i sicrhau cais cyntaf y gystadleuaeth i Gymru. Methodd Dan Edwards y trosiad.

Ond ni sbardunodd y cais ymgais arall i Gymru a gynigiodd tri phwynt arall i Tommaso Allan eu cicio drosodd. 22-8.

Roedd llygedyn o obaith i Gymru ar 78 munud wrth iddyn nhw gael cais gosb gan y dyfarnwr ar ôl i’r Eidal droseddu ar eu llinell gais eu hunain, a cholli dau chwaraewr i'r gell gosb.

Ond gorffennodd y gêm gyda'r sgôr yn 22-15.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.